´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
Tref Corwen 'Pencampwr y Gymraeg'
Rhagfyr 2007
Cefyn Williams
Hoffwn gyflwyno aelod gwerthfawr o bwyllgor llywio Corwen. Gŵr sydd â sylwadau a barn gref am y Gymraeg nid yn unig yng Nghorwen ond yn Sir Ddinbych.
Yng Nghynwyd mae Cefyn Williams yn byw, a phawb sy'n ei 'nabod yn gwybod amdano fel "Cymro i'r carn". Tybed felly faint ohonoch sy'n ymwybodol mai ar draws y ffin y daw yn wreiddiol?

Anghofiai fyth y noson iddo siarad a chynulleidfa, a dechrau'r cyflwyniad drwy ddweud ei fod yn enedigol o Fanceinion, yn fab i rieni uniaith Saesneg - bron i mi ddisgyn oddi ar fy nghadair!

Ydy wir mae Cefyn yn ysbrydoliaeth i ni gyd, a dwi'n siŵr y gwnewch fwynhau ddarllen yr hyn sydd ganddo i ddweud?

Sian: Cyn i mi holi am dy rôl ar y pwyllgor llywio, beth am i ti roi fymryn o gefndir teuluol inni?

Cefyn: Fe symudais i Gymru pan yn bedair oed yn y flwyddyn 1942, o Fanceinion. Milwr oedd fy nhad, ac oherwydd y rhyfel, difrodwyd ein tŷ. Roedd hi'n gyfnod caled, symudon ni gyda theulu arall i Brithdir ger Dolgellau, ac oddi yno i Gwyddelwern. Bu rhaid imi adael y pentref i wasanaethu yn y fyddin, ac wedi hynny es yn ôl i Fanceinion am gyfnod. Yma fe briodais a chael tair o enethod. Roedd Cymru yn agos at fy nghalon, ac roeddwn yn hiraethu am Edeyrnion. Felly fe ymgartrefon ni yng Nghynwyd, yma ganwyd y ddwy ferch ieuengaf a magwyd ein plant.

Sian: Beth ydy dy atgof cyntaf o'r iaith Gymraeg?

Cefyn: Doedd fy rhieni ddim yn siarad Cymraeg. Dwi ddim yn meddwl fod gan fy nhad lawer i ddeud wrth yr iaith, ond roedd mam o dras Wyddelig a chanddi fwy o gydymdeimlad tuag at yr iaith Gymraeg. Doedd dysgu'r iaith ddim yn broblem imi, gan fod yr iaith i'w glywed yn gyson ar fuarth yr ysgol a'r gymuned.

Sian: Oedd yna unigolion a ddylanwadodd arnoch chi bryd hynny?

Cefyn: Un a ddylanwadodd arnaf ac ysgogodd mi i siarad Cymraeg oedd gwr a adnabu ef fel yncl Bob, sef Major R.E. Jones, (tad "Huw Chick" o Gorwen). Byddai'n fy nhywys i'r ysgol Sui, yn wythnosol. Llond y lle o Gymraeg ond yn bwysicach i mi yma roeddwn yn rhan o'r gymuned. Dwi'n ei gofio yn fy nysgu i ddarllen y papur Cymraeg lleol. Roedd siop dillad Corwen yn hysbysebu yn y papur hwn a'u logo hwy oedd yn dweud rhywbeth tebyg i, "dillad da yn gwneud da am ddillad" efallai bod rhai o'r darllenwyr yn ei gofio? Un dydd Sui yn y capel dyma Robin Jones TÅ·'n Felin, yn gofyn imi "...and have you got an adnod boio" a minnau yn adrodd, "dillad da yn gwneud da am ddillad" a phawb yn rholio chwerthin!

Sian: Pa agwedd o waith y cynllun sy'n bwysig i chi yng Nghorwen?

Cefyn: Datblygu delwedd Gymreig o'r dref. Mae yna lawer iawn mwy o Gymraeg yng Nghorwen na mae pobl yn sylweddoli. Yn aml fe glywir rhai yn rhoi "bai" ar bobl Corwen am beidio defnyddio'r Gymraeg. Ond fe glywir lawer iawn o siaradwyr Cymraeg yn dewis defnyddio'r Saesneg yn gyntaf yn hytrach na'r Gymraeg. Efallai dylwn i ofyn pa un ddaeth gyntaf dwad ... Yr iâr neu'r ŵy?

Sian: 'Rwyt ti'n gynghorydd sir, ond hefyd mae gennyt gyfrifoldeb arall o fewn y cyngor sir, be yn union ydy'r swydd yma?

Cefyn: Enw'r swydd ydy "Welsh Champion" neu "Pencampwr y Gymraeg". Dydw i ddim yn rhy hoff o'r cyfieithiad, byddai "hyrwyddwr" yn ddisgrifiad gwell.

Yr hyn rwy'n wneud ydy arsylwi fod y cyngor sir yn gweithredu yn unol â chanllawiau eu cynllun iaith. A bod gwariant ar adnoddau ieithyddol yn digwydd yn effeithiol. Roeddwn mor falch o weld yn y golofn hon mis diwethaf cynllun Rhuthun yn annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg. Mae'n hynod bwysig bod yr iaith nid yn unig yn weladwy ond ei bod yn cael eu defnyddio.

Sian: Fel hyrwyddwr o'r iaith Gymraeg yn y Cyngor sir. Pa agwedd o waith y cyngor sir hoffet ti weld yn datblygu?

Cefyn: Magu hyder, yn yr uwch swyddogion sydd a'r gallu i siarad Cymraeg i'w ddefnyddio yn y gweithle. Mae yna lawer o swyddogion da yn y cyngor sir ac rydan ni'n ffodus iawn ohonyn nhw. Braf fyddai gweld rhagor o'r rhai sydd a'r gallu ieithyddol yma yn arwain y ffordd i rai llai hyderus.

Da chi gyfeillion annwyl; gwisgwch eich bathodynnau iaith gwaith, a defnyddiwch yr iaith Gymraeg.

Sian: Mae yna rhai fyddai'n dweud nad ydy eu Cymraeg nhw yn ddigon da, a well ganddyn nhw siarad Saesneg yn y cyfarfodydd.

Cefyn: Waeth i ni heb a disgwyl i dderbynnydd y cyngor sir ddefnyddio'r Gymraeg, a ninnau yn siarad Saesneg yn y cyfarfodydd! Rhaid inni ddangos ein gwerthfawrogiad o'u hymroddiad hwy i'n polisi iaith. Dydy hi'n dda i ddim pregethu un ffordd a gwneud fel arall ein hunain.

Be ydy'r ots os nad ydan ni'n gwybod y term Cymraeg? Nid cystadleuaeth iaith ydy o. Mae'r gallu gennym ni i warchod hawliau ieithyddol i eraill. Wrth ddefnyddio'r Gymraeg o fewn y gweithle rydan ni yn codi statws yr iaith. Pa ffordd haws o wneud hyn na chyflwyno'r Gymraeg o fewn ein cyfarfodydd? Dechrau pob sgwrs yn Gymraeg. Dangos esiampl dda, cwrteisi, cyfeillgarwch ond cryfder.

Mae'n bwysig fod pawb yn cefnogi ein gilydd. Mewn undeb mae nerth, Sian: Oes yna bobl yn defnyddio'r llinell gwasanaeth Gymraeg? Pam fod llinellau fel hyn mor bwysig?

Cefyn: Ydy, mae mwy yn ei ddefnyddio erbyn hyn. Tybed ydy pobl wedi dechrau amau fod yr ymateb ar y llinell yma yn gyflymach! Dylwn gofio yn ychwanegol i'r manteision amlwg. Mae gwasanaethau fel hyn yn hwb i'r economi lleol, yn cynnig gwaith i bobl yng Nghymru yn hytrach na gwledydd tramor.

Sian: Pa mor gryf ydy'r iaith Gymraeg?

Cefyn: Wyddost ti Sian mae gan rhai pobl ofn ieithoedd yn y wlad yma. Ar y cyfandir, dydy dwyieithrwydd ddim yn broblem oherwydd mae mwyafrif y byd yn hollol ddwyieithog. Dylen ni ddim ystyried ein hunain yn lleiafrifol oherwydd ein bod ni'n siarad Cymraeg. Pobl uniaith sydd a phroblemau gyda dwyieithrwydd.

Sian: Diolch Cefyn.

Cefyn: Croeso, cofia ddweud os oes un rhywun angen trafod gwasanaeth ieithyddol y cyngor sir gallwch gysylltwch â mi ar 01490 412784. Cofiwch hyn: defnyddia dy iaith neu colla hi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý