大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Rhys Hughes Rhys Hughes
Mai 2005
Portread o Rhys Hughes o Ruthun.
Allwch chi s么n ychydig am eich cefndir addysgol a'ch teulu?

Rydw i'n ail fab i John a Glenys Hughes a brawd i Owen, Robyn a Rolant heb anghofio am Rala y ci hurt. Bum yn Ysgol Twm o'r Nant yn Ninbych. Roedd pedwar neu bump teulu o ardal Rhuthun eisiau gyrru eu plant i ysgol gynradd Gymraeg. Felly dal bws Crosville o Rhuthun i Ddinbych bob dydd ers yn bedair oed gyda theuluoedd y Tudors, Llywelyn a'r Jonesys.

Dylanwad Kate Davies prif athrawes, digon o chwaraeon, dawnsio gwerin llawer o actio a chanu ac wrth gwrs digon o waith ysgol. Wedyn ymlaen i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd a chael yr anrhydedd o wisgo gwisg ysgol frown a hufen am saith mlynedd!! Ffrindiau newydd. Dylanwad hogie Rhyl!!

Ymlaen i goleg yn High Wycombe ger Llundain i astudio Technoleg Coed, dylanwad fy nhaid Hywel Hughes. Cwrs diddorol iawn gyda 90% o'r myfyrwyr yn dod o Affrica. Hogie o Uganda, Mozambique, Ethiopia a Zambia.

Beth yw eich prif ddiddordeb?

Fy mhrif ddiddordeb ers yn bedair oed oedd y b锚l hirgron. Owen, Robyn a minnau yn gwylio dad yn chwarae bob p'nawn Sadwrn. Mam yn poeni ein bod yn pigo geirfa anweddus. Roedd p锚l rygbi mwy neu lai ynghlwm i'm corff pan oeddwn yn ifanc. Cofio'n iawn chwarae bob nos yn y cae gyda fy mrodyr yn y tywyllwch a mam wastad yn gweiddi arnom ni i ddod mewn.

Chwarae i d卯m ieuenctid Rhuthun o dan yr hyfforddwr Mike Gander. Tra yn y coleg chwareais i d卯m dan 19 Swydd Buckingham cyn cael galwad ff么n gan hyfforddwr dan 19 Lloegr yn gofyn faswn i'n ystyried chwarae i d卯m dan 19 Lloegr?? Na oedd yr ateb.

Yn fy ail flwyddyn yn y coleg cefais y cyfle i chwarae i d卯m dan 21 Northampton. Profiad bythgofiadwy. Chwarae yn erbyn cewri clybiau Lloegr - Leicester, Harlequins, Gloucester ac yn y blaen. Ar ddiwedd y tymor rwy'n cofio'r hyfforddwr yn dweud bod prif noddwr y clwb "Travis Perkins" wedi cynnig swydd imi pe bawn yn fodlon ymuno 芒 charfan t卯m cyntaf y clwb. Dyna fasai fy mhrofiad cynta o'r g锚m broftesiynol fel yr oedd y pryd hynny. Dychwelyd yn 么l i Rhuthun oedd yr unig beth ar fy meddwl.

Wedi cyfnod o dair blynedd yn chwarae'n Ileol yn Rhuthun ymunais a Chlwb rygbi Caer yn 1995 a wedyn ymlaen i New Brighton ger Lerpwl am dair blynedd cyn ymuno a Siroedd Y Gogledd am dymor.

Rydym yn deall eich bod wedi chwarae rygbi yn Seland Newydd. Sut gododd y cyfle?

Ar y pryd roedd Wayne Shelford, cyn gapten Seland Newydd yn chwraewr a hyfforddwr Northampton. Felly trwy gysylltiad y clwb es allan i fyw i Wellington a chwarae i'r Wellington Harlequins. Chwarae yn erbyn Samoans a Maoris pob wythnos, dynion naturiol anferth a chyhyrog. Rwy'n cofio rhedeg tuag at faswr un tim yn meddwl y byddwn yn rhedeg trwyddo - yn sydyn reit fe'm pigodd i fyny yn yr awyr gerfydd fy shorts cyn eu rhwygo nhw i ffwrdd!!

Llawer o ffrindiau da yn dal yno a mae mam a dad yn gobeithio cyfartod rhai ohonynt tra'n dilyn y Llewod ym mis Mehefin.

Chwareais i d卯m Gogledd Cymru yn erbyn y cawr o Seland Newydd Jonah Lomu yn 1998. Byddaf yn gallu dweud wrth fy wyrion fy mod wedi ei daclo. Un o uchafbwyntiau fy ngyrfa rygbi oedd bod yn rhan o d卯m Gogledd Cymru a gipiodd Gwpan Siroedd Cymru yn 2002. Y tro cynta i'r Gogledd ei hennill ers 1967.

Diddordebau eraill ym myd chwaraeon?

Criced yn yr haf a mymryn o golff. Trio peidio chwarae gormod o golff rhag ofn imi ddal y byg fel fy nhad!! Dipyn o redeg, nofio a beicio unrhyw beth i gadw'n heini.

Rydych yn gapten ar Glwb Rygbi Rhuthun. Ydach chi'n mwynhau'r sialens?

Dyma'r ail waith imi gael capteniaeth y clwb. Unarddeg mlynedd ar 么l y tro cynta! Cawsom ddyrchafiad i'r drydedd adran ar 么l dod yn bencampwyr Gogledd Cymru lIynedd. Wedi mwynhau bob munud eleni, yn enwedig gan ein bod wedi chwarae mor dda y tymor hwn. Methu cael dyrchafiad i'r ail adran o drwch blewyn.

Mae 'ne ryw deimlad sbesial yn y clwb ar hyn o bryd, a'r talent ifanc yn hynod. Rwyf hefyd wedi synnu at faint o waith mae rhai o swyddogion y clwb yn ei wneud i sicrhau IIwyddiant y clwb. Hoffwn ddiolch iddynt i gyd.

Mae'n rhaid s么n fan hyn am bartneriaeth chwarter canrif rhyngof i a John "the Boot' Tudor. Dechreuodd y bartneriaeth yn Ysgol Twm o'r Nant ac mae o'n dal i weiddi arna i hyd heddiw!

Pwy sydd wedi dylanwadu mwyaf ar eich bywyd?

Fy nheulu i gyd a Rachel fy nghariad. Rhaid cofio hefyd am Taid a Nain Rhuthun a Taid a Nain Bala a'r atgofion melys am yr amser yn Nh欧 Tan y Graig.

Rydych yn gweithio gyda chwmni coed yn Yr Wyddgrug. Pa fath o waith ydach chi'n ei wneud?

Ydw, rwyf yn gwelthio i P&A Fencing & Sheds Ltd yn yr Wyddgrug. Mae'r cwmni wedi'i rannu yn dri - cwmni yn cynhyrchu paledi i rai o gwmn茂oedd mawr yr ardal, cyflenwi Canolfanau Gardd ledled Prydain a Chanolfan m芒n werthu yn yr Wyddgrug.

Dechreais yn y cwmni fer prynwr. Gwaith diddorol iawn yn prynu coed o Ganada, Gwledydd y Baltic, Poland, Chile, Portugal. Trafeilio o gwmpas y wlad i borthladdoedd ar arfordir ddwyreiniol Prydain i archwilio'r coed. Mae'r swydd wedi newid erbyn heddiw ac yn cynnwys dyletswyddau eraill - Cynhyrchu, lechyd a Diogelwch, Adnoddau dynol, gwerthu, mwy fel Rheolwr Cyffredinol erbyn heddiw.

Dw i'n deall eich bod yn dilyn 么l traed eich taid yn hyn o beth.

Yn sicr. Mae'n rhaid bod rywfaint o goed yn fy ngwaed! Sefydlodd taid gwmni coed yn Afonwen ger Caerwys ym mhedwardegau'r ganrif ddiwetha'. Roedd yn gwerthu coed caled i Weithdy Dur Shotton am hanner canrif. Mae brodyr dad, Yncl Rich, Phil a James yn dal i redeg y cwmni heddiw. Taid gyflenwodd y pyst rygbi cyntaf i Ysgol Twm o'r Nant yn y saithdegau ac erbyn meddwl mae'n anhygoel faint o'r cyn ddisgyblion sydd wedi ac yn chwarae i glybiau Rhuthun a Dinbych.

Unrhyw uchelgeisiau neu obeihion ar gyfer y dyfodol?

Yr uchelgais mwya' yw priodi Rachel y flwyddyn nesa. Ceisio cael fy anafu lIai ar y cae rygbi gan fod y corff yn heneiddio!

Diolch Rhys. Pwy fuasech chi'n hoffi enwebu ar gyfer y Portread nesaf?

Wedi bod yn bartneriaid da ar y cae rygbi ac yn ffrindiau ers ysgol feithrin, rydw i am enwebu John Tudor. Mae ganddo ddigon i'w ddweud bob amser!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy