"Deuthum i 'nabod Mark am y tro cyntaf pan oedd yn naw oed, ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Cinmeirch, Llanrhaeadr. Roeddwn yn treulio dau b'nawn yr wythnos yn cynorthwyo plentyn ag anghenion arbennig, gan rannu'r gwaith dysgu gydag Emyr Evans. Pan fyddai cerddoriaeth ar yr amserlen, byddem yn newid drosodd. Byddwn innau'n dysgu'r dosbarth ac Emyr yn gyfrifol am gynorthwyo'r plentyn roeddwn i'n ei gysgodi. Cefais amser hapus iawn yno, a gwelais bod amryw o'r plant yn gerddorol dros ben, a Mark yn arbennig, wrth iddo ymgolli yn y gerddoriaeth.
Daeth am wersi canu ataf yn ogystal â mynd at Eira Jones am wersi llefaru ac i ddysgu dawnsio yn Ysgol Adele Meade yn Ninbych.
Daw ambell i ddigwyddiad i'r cof am Mark - yn cystadlu yn yr Wyl Ysgol Sul gan ganu deuawd efo Angharad Rawson, 'Arglwydd Mawr y Nef a'r Ddaear'. Cofiaf hefyd fynd i'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala yn 1997 gyda Mark ac yntau yn cystadlu ar yr unawd i fechgyn dan 15 oed. Roedd yn hawdd iawn i'w ddysgu a chôf da ganddo - nid oedd angen ail adrodd. Dysgai eiriau pob cân, cerdd dant neu alaw werin mewn wythnos.
Roedd hefyd bob amser yn frwdfrydig, ac yn bositif dros ben tuag at gerddoriaeth, ac yn hoff iawn o berfformio o flaen cynulleidfa.
Cofiaf iddo uno gyda phlant Ysgol Sul Hebron, Rhewl ger Llangollen, i ddiddori Cymdeithas Gymraeg Llangollen a swyno pawb - y plant yn ogystal â'r oedolion.
Cefais y pleser o gyfeilio iddo mewn cyngherddau. Cofiaf gyfarfod â'i daid yn un o'r cyngherddau hyn, ac yntau'n tynnu at ei gant oed.
Mewn cyngerdd arall, roeddem yn ymddangos ar y llwyfan ym Mhafiliwn y Rhyl gyda Glyn Owens yn arwain y noson, a Tony ac Aloma'n brif artistiaid. Roedd Mark erbyn hyn yn dechrau dod â dawns i mewn i'w berfformiad, oedd yn ragflas o beth oedd i ddod.
Un o'r cystadleuthau olaf y bu iddo gystadlu ynddi dan fy ngofal oedd yr unawd 'Fel cipiwr adar rwyf i'n dda' o'r 'Ffliwt Hud', Mozart, yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001.
Llwyddodd i dderbyn ysgoloriaeth i Ysgol Laine, yn Epsom. Roedd llawer yn ceisio am yr 'un peth, ond dewiswyd Mark yn un o'r pump arbennig a gafodd le.
Dymunaf pob lwc i Mark i'r dyfodol; gwn y bydd yn rhoi o'i orau bob amser - mae'n credu mewn gweithio'n galed."