Rydych newydd ddychwelyd adref ar 么l cyfnod hir o weithio dramor. Beth yn union oedd eich gwaith?
Rydw i n么l adref ers mis Ebrill ar 么l bod yn athrawes mewn ysgolion tramor am tua saith mlynedd. Athrawes gynradd ydw i ac fe fues yn dysgu y Cwricwlwm Cenedlaethol Prydeinig mewn ysgolion rhyngwladol. Yn gyntaf fe es i weithio yn Oman yn y Dwyrain Canol, yna Seoul yn Ne Korea, Phuket yng Ngwlad Thai ac yna cyfnod byr yn Caracas, Venezuela. Roedd gweithio yn Oman yn dipyn o sialens gan mai dosbarth meithrin oedd gen i a neb bron yn siarad Saesneg. Roedd y plant gyda fi am hanner y diwrnod a gyda'r athrawes Arabeg yr hanner arall. Fe ddes i ddeall tipyn o Arabeg yn y cyfnod hwnnw! Aeth pethau yn haws wedi hynny gan fod y plant yn yr ysgolion eraill a dipyn o Saesneg ganddynt yn barod.
Wnaethoch chi fwynhau'r profiad?
Do fe ges amser wrth fy modd. Dwi wrth fy modd yn teithio ac fe gefais y profiad o ymweld 芒 llawer o wledydd - yn enwedig gwledydd Asia. Mae'n ddiddorol iawn gweld sut mae pobl o grefyddau a diwylliannau eraill yn byw - ac mae rhywun yn dod i weld tipyn mwy wrth fyw yn eu plith. Doedd hi ddim yn hawdd o hyd - yn enwedig ymdopi gyda'r ieithoedd dieithr ond roedd yn brofiad wna i fyth ei anghofio.
Ces y cyfle i ddysgu nofio tanddwr - SCUBA diving - tra yn Oman, ac wrth fy modd yn nofio o dan y dwr - rhywbeth na fuaswn byth wedi gwneud yn Rhuthun! Roedd y gwaith hefyd yn ddiddorol iawn gan fod gennyf blant o bob cwr o'r byd yn fy nosbarthiadau.
Sut mae dysgu dramor yn wahanol i ddysgu yng Nghymru?
Ysgolion preifat oedd yr ysgolion ac roedd gan y rhieni ddisgwyliadau uchel, ond er hynny roeddynt yn gefnogol iawn. Mae gan athrawon barch mawr yng ngwledydd Asia a De America ac mae'r plant yn barod i ddysgu. Doedd dim llawer o waith disgyblu - er nad oedd y plant yn angylion o bell ffordd. Roedd gofyn i mi roi llawer o'm penwythnosau i'r ysgol hefyd - ysgol breswyl oedd yr ysgol yng Ngwlad Thai ac roedd gofyn i'r athrawon i gyd gymryd eu tro i helpu gyda'r disgyblion preswyl ar y penwythnos.
Hefyd roedd llawer iawn o weithgareddau cymdeithasol yn cael eu cynnal yn ac roedd gofyn i'r athrawon gefnogi. Roedd rhaid bod yn ymwybodol weithiau o arferion y wlad - er enghraifft yng Ngwlad Thai mae ysgrifen coch yn arwydd o farwolaeth - ac felly dim marcio ag inc coch! Mae'n arferiad yn Asia i bawb dynnu eu esgidiau cyn mynd mewn i stafell - meddyliwch y strach o drio helpu dosbarth o blant meithrin gyda'i hesgidiau bob amser chwarae! Doedd dim cweit gymaint o waith papur i'w wneud mae'n debyg, ac roedd y gwyliau lawer yn hirach!
Oedd gennych chi unrhyw hiraeth am adref ac oedd 'na unrhyw gyfle i chi siarad Cymraeg yno?
Dwi'n berson sy'n setlo mewn lle newydd yn reit hawdd ond wrth gwrs roedd hiraeth ar y dechrau. Mi roeddwn yn cael ymwelwyr o Gymru yn reit aml ac ar y ff么n yn wythnosol a'm teulu. Y tro cyntaf yr es i ffwrdd roeddwn i'n eithaf petrusgar ond roedd Cymraes arall o Dde Cymru yn teithio draw gyda fi ac fe ddaethom yn ffrindiau yn syth. Lwcus iawn nad oeddwn ar fy mhen fy hun gan nad oedd neb yno i'n cyfarfod ym maes awyr Muscat- roeddynt wedi camgymryd amser y ffleit. Mi ddaeth rhywun ar 么l tua hanner awr - diolch byth! Mae'r ysgolion rhyngwladol yn gefnogol iawn fel arfer ac yn trefnu rhywle i'r athrawon fyw ac yn eu helpu gyda bywyd bob dydd mewn gwlad ddieithr.
Roedd Cymro Cymraeg o ardal Wrecsam yn Oman yr un adeg 芒 mi ac hefyd cefnder i dad sef Gwyn a'i wraig June, ac roeddwn yn cyfarfod a nhw yn reit aml. Roedd Cymraes o'r enw Nia o ardal Prestatyn yn gweithio gyda mi yn Phuket ac roeddem ein dwy wrth ein bodd yn sgwrsio yn Gymraeg yn yr ystafell athrawon. Roedd yn agoriad llygaid i'r Saeson yn yr ysgol gan nad oedd llawer ohonynt yn gwybod fod yr iaith yn bod o hyd. Beth yw eich diddordeb ym myd y ddrama?
Dwi'n aelod o Gwmni Drama Cwlwm ac yr ydym yn brysur yn ymarfer dram芒u byrion ar hyn o bryd fydd yn cael eu llwyfannu ddechrau Chwefror. Dwi ddim yn rhy hoff o'r perfformio ond mi rydyn yn cael andros o hwyl yn ymarfer. Cwmni drama gyda aelodau o gapeli Clawdd, Derwen, Bont, Cyffylliog a Rhewl ydi'r cwmni.
Ar un cyfnod, roeddech yn weithgar iawn gyda Sioe Clawdd. Beth oedd eich r么l?
Er fy mod wedi bod yn byw dramor ers blynyddoedd roeddwn adref bob haf ac felly o gwmpas i helpu gyda'r sioe yn Clawddnewydd - gan mai oddi yno yr ydw i yn enedigol. Fi sy'n gyfrifol am adran y ceffylau. Roeddwn yn arfer cymryd rhan mewn Gymkhanas pan yn blentyn ac wrth fy modd yn cystadlu. Dwi'n falch rwan o fod yn medru helpu i drefnu y Sioe.
Dwi'n deall eich bod yn gobeithio dod yn dipyn o 'giamstar' ar y cyfrifiadur.
Dwi wrth fy modd yn chwarae gyda'r cyfrifiadur ac wrthi ar hyn o bryd yn gwneud cwrs Trwydded Yrru Cyfrifiadur Ewropeaidd yng ngholeg Llysfasi. Hefyd fe gefais gyfle i lunio tudalennau'r we gyda fy nosbarth tra yn Venezuela a Seoul. Mae'r rhyngrwyd yn gr锚t - yn enwedig i gadw mewn cysylltiad tra i ffwrdd. Roeddwn y gwrando ar gemau rygbi rhyngwladol Cymru ar y we os nad oeddynt i'w gweld ar run teledu tra dramor ac hefyd yn gwylio newyddion S4C - o a darllen Y Bedol wrth gwrs.
Pwy yw eich dewis ar gyfer portread nesaf a pham?
Dwi am ddewis cefnder i fy nhad Eric Jones. Mae yntau fel finnau yn enedigol o Glawddnewydd (Bryn Meibion) ac wedi cael gyrfa lewyrchus yn yr heddlu. Roedd yn arfer fy herian yn ddidrugaredd pan oeddwn yn blentyn - felly dyma'n ffordd i o dalu yn 么l iddo!