Dyma dywed Jo - "Hoffwn ar y dechrau ddiolch yn lawr iawn i Liz Ayer am roi bron 30 mlynedd o wasanaeth yn nhref Rhuthun.
"Pan ddois i Rhuthun y tro cyntaf, roeddwn yn fenyw oedd yn casau prynu dillad hollol wir i chi. Ond ar 么l darganlod y siopau da sydd yma rwyf wedi mynd y fordd arall!
"Er hynny, doeddwn i byth yn meddwl y buaswn yn cymeryd y cam mawr o brynu siop ddillad Ond dyna ni, mae bywyd yn mynd a ni lawr lonydd bach od weithiau.
"Pan glywais lod Liz am ymddeol meddyliaisl bod hyn yn beth trist iawn.
"Un cwestiwn hollol hunanol oedd "ble dwi'n mynd i gael y fath ddillad nawr?"
"Ond yr ail gwestiwn wnes i ofyn i fi fy hun oedd yr un pwysig rwy'n meddwl sef "Pa fath o effaith fydd colli siop annibynnol yn gael ar y dre?"
"Mae pobl yn dod o bob rhan o'r byd i'r dre fach (bwysig hon).
"Felly, roedd rhaid gwneud rhywbeth i sicrhau fod y dewis yn dal i fod yma. A dyna sut wnes i'r penderfyniad i brynu Montecito.
"Mae Liz wedi creu rhywbeth arbennig yn y siop fach yma a gobeithiaf allu parhau i ddatblygu'r busnes yn yr un mood.
"Rwyf am gynnig ystod eang o stoc ffasiynnol sydd ychydig mwy gwahanol ac unigol na'r eitemau a welwch yn y siopau mawr.
"Rwyf yn Iwcus iawn i gael tair merch dda iawn i'm helpu sef Val, Kim ac Elen, ond ni fydd Elen gyda ni yn hir oherwydd mae'n mynd i'r Coleg ym Mangor.
"Rwyf yn edrych ymlaen yn arw i fod yn rhan o'r ''teulu" o berchnogion busnes yn Rhuthun, mae pawb wedi bod mor groesawus.
"Ond rhaid diolch yn arbennig i Trefor Jones a'i deulu, Chris a Gavin o'r Manorhaus ac wrth gwrs pawb yn Elfair wnaeth fy helpu i wneud y penderfyniad yma. Mae'n rhaid dweud diolch yn fawr iawn i'r rhai a ddaeth a blodau i'r siop ar y diwmod cyntaf sef Carol a'r criw o Gayla House, pawb o Alton Murphy a'r Cyng horydd Morfudd Jones a'i chwaer Menna."
|