Rwyf yma ar raglen gyfnewid ym Mhrifysgol Illinois 'fel rhan o fy nghwrs BA Astudiaethau Americanaidd am y flwyddyn. Cefais siwrne ddigon diddorol ar yr awyren drosodd n么l ym mis Awst, rhoddodd ddynes enedigaeth i ferch fach - dim ond yn y 'movies' o'n i'n meddwl bod pethau fel 'na yn digwydd. Glanio'n O'Hare (sbotio arwydd yn dweud Croeso!) amser cinio - a chyfarfod merch o Rhyl yn eistedd gyferbyn! Hithe 'di sylwi ar fy siwmper Cowbois "Cymraes". Mae'r Brifysgol tua dwy awr o Chicago mewn "twin city" o'r enw Champaign-Urbana. Un o Brifysgolion mwyaf y wlad ac yn rhan o'r "Big Ten". Ardal hyfryd a champws anferth ond cartrefol. 'Does dim bryn na mynydd mewn golwg, peth gwirion i fethu - ond dyna ni. Rhannu stafell digon cyfforddus gyda merch o'r enw Katie, sy'n wreiddiol o South Korea, ond hefyd yn byw yn Chicago - dinas dwi 'di syrthio mewn cariad 芒 hi. Cefais wahoddiad yn yr wythnos gyntaf gan ferch oddi ar y coridor i aros gyda hi a'i theulu dros Labor Day Weekend (dim U bedol yn Labour Americanaidd!). Profiad gwerth chweil i weld dinas gyda merch leol. Merch 芒'i gwreiddiau ym Mhuerto Rico, a'u traddodiad teuluoedd hwy yw cael barbeciw anferth ar y traeth. 'Roedd croeso'n anhygoel! Cael sgwrs bach neis gyda Forest Gump yn Navy Pier hefyd! Wedi ymuno 芒 nifer o gymdeithasau, y ffefryn yw "Harassing Illini" a'n pwrpas yw gweithio ar ein gwrthwynebwyr chwaraeon i geisio rhoi nhw ffwrdd. G锚m Hoci I芒 nos fory yn erbyn Michigan, ein prif gydymgeiswyr ond yn dioddef o ddolur gwddw ar y funud (gormod o goffi mae'n debyg!) felly fydda i ddim llawer o ddefnydd! Doeddwn i ddim yn disgwyl y sylw dwi'n gael oherwydd yr acen. Americanwyr wrth eu boddau! Yr etholiad fawr cyn bo hir - a Chalan Gaeaf cyn hynny. Bydd y lle ma'n 'bonkers'! Diolchgarwch 'diwedd mis Tachwedd, a chriw bach ohonom yn mynd i Boston, ac wedyn dros y ffin i Toronto. Piti fyddai'n methu pen blwydd mawr Mam, ond bydd fy rhieni'n dod ataf dros y 'Dolig, felly'n edrych ymlaen am hynny. Gobeithio bod pawb yn iawn ac yn bihafio! Llawer o gariad Elin xx Elin Williams, Erw Goch, Rhuthun
|