Y Llyfrgell Deithiol Y dau wasanaeth oedd y Llyfrgell Deithiol a'r Siop Symudol oedd yn gysylltiedig â Siop y Fro yng Nghlawddnewydd. Ergyd arall i bawb oedd yn defnyddio'r cyfleusterau hyn ac nad yw'n hwylus iddynt fynd i'r siop neu i'r llyfrgell agosaf. Unwaith eto mae trigolion cefn gwlad yn dioddef.
Dyma sylwadau swyddogol Cyngor Sir Ddinbych ynglŷn â'r mater: "Gorfodir y Gwasanaeth Llyfrgell, fel nifer o wasanaethau eraill ar draws Sir Ddinbych, i gwtogi ei wariant blynyddol yn unol ac agenda effeithlonrwydd y Cynulliad. O ganlyniad, ac oherwydd fod y lis ar y llyfrgell deithiol yn dod i ben, nid oes gan y Gwasanaeth Llyfrgell ddigon o adnoddau a chyllideb i gomisiynnu cerbyd newydd, a thrwy hynny ymrwymo'r Awdurdod i wariant pellach am y 7 mlynedd nesa.
Yn anffodus, golyga hyn y bydd y Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol yn dod i ben yn swyddogol ar Ebrill 1af. Ond, i hwyluso cwsmeriaid i ddychwelyd eu llyfrau, caiff amserlen ymweliadau'r llyfrgell deithiol ei hymestyn hyd at Ddydd Gwener, Mai 29ain. Bydd hyn yn rhoi o leiaf dau gyfle i bob cwsmer ddychwelyd eu llyfrau. Bydd y cyfle i fenthyca rhagor o lyfrau yn dal i fodoli hyd at Mai 29ain, cyn belled ag y bydd pawb yn derbyn y cyfrifoldeb i ddychwelyd yr eitemau ar fenthyg i lyfrgell arall."
Bu Gwynfryn Jones yn gweithio gyda'r llyfrgell deithiol am flynyddoedd hyd nes iddo ymddeol yn 1992. Dyma rai o'i sylwadau am y cyfnod hwnnw:
"Ar ôl bod mewn bodolaeth ers dechrau'r pumdegau pan oedd y llyfrgell yn gwasanaethu y pentrefi mwyaf yn yr hen Sir Ddinbych, o Lanrhaeadr ym Mochnant i Lan Conwy, yn 1969 penderfynwyd ehangu'r gwasanaeth i gynnwys pentrefi llai a chartrefi unigol a gwerthfawrogwyd hyn yn fawr iawn gan y trigolion. Roedd hyn yn golygu fod holl adnoddau'r llyfrgell ganolog ar gael yn ymyl eu cartrefi, cam mawr ymlaen! Wedi adrefnu llywodraeth leol yn 1974 roedd y diriogaeth yn llawer iawn mwy, gan gynnwys llefydd fel Nantyr, Cwmpenanner, Pand Tudur a llawer lle arall. Roedd hyn yn gwneud teithio yn anodd iawn yn y gaeaf pan oedd llawer mwy o eira nag a gawn heddiw a byddwn yn methu mynd i ambell i le am fis neu chwech wythnos.
Yn sicr bydd y trigolion yn teimlo y golled ar ôl blynyddoedd o wasanaeth gwerthfawrogol. Cefais y pleser o fod yn rhan o hyn o'r cychwyn yn 1969 hyd i mi ymddeol yn 1992."
Siop y Fro Yn dilyn agor Siop y Fro ger Canolfan Cae Cymro yn 2001, cafwyd arian o Gronfa'r Loteri Cenedlaethol er mwyn sefydlu siop deithiol a bu hon yn llwyddiannus iawn gan ymweld ag ardal eang o fewn cylch o saith milltir i Glawddnewydd. Yn anffodus, daeth y nawdd i ben ac nid oedd modd cael arian o ffynhonellau eraill ac felly bellach mae teithiau'r siop ar ben. Yn sicr bydd hyn yn golled i lawer iawn o'u cwsmeriaid ffyddlon ledled yr ardal. Diolch i bawb fu'n cynorthwyo dros y blynyddoedd.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |