Cyn 1995, doedd Rachael ddim yn siarad Cymraeg. Ganed hi yn Exeter, a phan oedd hi'n ddwy oed, symudodd y teulu i Norwich.
Anaf i'w phen glin ar y cae hoci a newidiodd cwrs ei bywyd. Pymtheg oed oedd hi ar y pryd, a byth er hynny mae
hi wedi cael trafferth cerdded.
Astudiodd Rachael y gyfraith ym mhrifysgol Bryste ac yng ngholeg y gyfraith yn Guildford. Wedi gorften ei hyfforddiant, dechreuodd arbenigo ym maes esgeulustra clinigol. Erbyn hyn, mae hi'n aelod o nifer o bwyllgorau cyfreithiol, gan gynnwys Panel Esgeulustra Clinigol Cymdeithas y Gyfraith.
Mae Rachael wedi bod ar flaen y gad yn mynnu iawndal i rai sydd wedi dioddef sgîl effeithiau adfydus yn dilyn triniaeth feddygol. Yn y flwyddyn dwy fil, llwyddodd i sicrhau iawndal o bron £5miliwn i gleient oedd wedi dioddef niwed i'r ymennydd ar enedigaeth. Roedd llawdriniaeth ar ei phen-glin hithau yn yr arfaeth, ond penderfynodd Rachael ohirio hynny er mwyn cynnal cleient arall mewn achos llys parthed damwain feddygol drasig.
Mae'r Bedol yn deall fod y llawdriniaeth bellach wedi ei gyflawni.
Ym 1995 y daeth Rachael a'i theulu ifanc i Bwllglas i fyw. Bellach mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn astudio am radd yn yr iaith. Mae hi'n weithgar yn y capel ac yn cydolygu'r cylchlythyr. Mae hi hefyd yn helpu cangen leol yr Urdd.
Ymdoddi i fywyd y fro y mae'r teulu cyfan. Mae gŵr Rachael, David, yn dysgu Cymraeg; a'r plant David a Theo yn llif Gymraeg ysgol Brynhyfryd.
Dyna gipolwg ar fywyd merch eithriadol o Bwllglas. A oes gennych chi hanes am rywun prysur a dawnus yn eich pentref chi? Bydd Y Bedol yn falch o glywed gennych.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |