Dyna'r englyn a gyfansoddodd y bardd Isnant (Edward Harker, Llanrwst 1866 i 1969) i ddathlu ei ben-blwydd yn gant oed.
Mae'r englyn hwn yn wir am berson o fro'r Bedal a ddathlodd ei ben-blwydd yn gant oed Mawrth 23, 2008 sef Hugh Evans, Bodlondeb, Bryneglwys (TÅ· Isaf gynt). Cafodd ei eni a'j fagu ym mwynder Maldwyn yn Llanrhaeadr ym Mochnant cyn i'r teulu symud i amaethu i TÅ· Isaf, Bryneglwys pan oedd tua deg aed.
Ar hyd y blynyddoedd bu'n gefnogwr brwd i'r cymdeithasau ym Mryneglwys ynghyd â'r Côr Meibion, Dosbarth W.E.A. a'r Treialon Cŵn Defaid.
Roedd yn flaenor yng Nghapel Sïon, Bryneglwys ac erbyn hyn ef ydy'r blaenor hyn yng Nghapel Seion, Corwen. Ers ychydig a wythnosau bellach mae wedi ymgartrefu yn Awelon, Rhuthun.
Ar ddiwrnod ei ben-blwydd bu Hugh Evans yn dathlu mewn parti gyda'r teulu, cyfeillion a chymdogion yn yr "Willows", Llandegla. Derbyniodd nifer a gardiau a chyfarchion ar yr achlysur unigryw hwn ynghyd â llythyr gan y frenhines a chyfarchion arbennig gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru.
Treuliwyd pnawn difyr yn dathlu ar lafar ac ar gan i longyfarch Hugh Evans ar gyrraedd y ganrif.
Cyfarchion i Hugh Evans gan y Prifardd Tudur Dylan ar ran teulu Plas yn Rhos, Bryneglwys.
Ti yw sail Ty Isa o hyd - a'r heulwen
drwy Iâl yn llawn bywyd,
yn ifanc dy ffordd hefyd
wyt yn gant, yn wên i gyd.
Cyfarchion i Hugh Evans a ganwyd gan ei nai, Elwyn Evans, yn y Parti
Penblwydd.
Daeth i Iâl o fwyn Drefaldwyn
Tua chanrif maith yn ôl;
Ymgartrefu yn TÅ· lsa'
Ardal brydferth - bryn a dol;
Tyfodd yntau i amaethu
Hen grefft gynta' dynol ryw,
Cafodd ffydd a nerth ei gapel
I ymddiried yn ei Dduw.
Cymydog triw, a ffrind caredig -
Mae yn ŵr y filltir sgwâr;
Carai lyfrau a llenyddiaeth -
Mae yn wir yn Gymro gwar.
Bu yn gefn fel blaenor gweithgar
Yn ei gapel ar y Sul,
Gyda'i farn mor glir a chadarn,
Troediodd hyd y llwybr cul.
'Roedd yn ffensiwr syth a chadarn -
Ni ddoi gwynt a'i ffens lawr;
'Roedd yn dyrchwr heb ei debyg,
Daliodd dyrchod duon mawr.
Wel! Hugh Evans, daethom yma -
Pawb yn cofio'r dyddiau da;
Mae eich oes yn ganrif spesial!
Gwerth eich bywyd a barha'.
Elwyn Wilson Jones