´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
Noson Calan Gaea'
Noson Calan Gaea'
Bwbach ar bob camfa

O ble y tarddodd y traddodiadau sy'n ymwneud â Chalan Gaeaf?

Rydym yn draddodiadol yn cysylltu Hydref 31 gydag ysbrydion a phob math o ddrygioni arallfydol, ac mae'r arfer gan blant o fynd o ddrws i ddrws, wedi eu gwisgo fel ysbrydion neu wrachod yn gofyn am fferins neu bres, ar y noson hon yn beth digon cyffredin erbyn hyn.

Ond o ble y tarddodd y traddodiad hwn a'r rhai eraill sy'n ymwneud â Chalan Gaeaf? I gael yr ateb rhaid dechrau gyda'r Celtiaid.

Tymor y Tywyllwch
Yn oes y Celtiaid, rhannwyd y calendr yn ddwy ran: tymor y goleuni a ddathlwyd ar Fai 1 sef Calan Mai, a thymor y tywyllwch a oedd yn cychwyn ar Dachwedd 1 sef Galan Gaeaf.

Credid bod mwy o bwysigrwydd yn cael ei roi ar Galan Gaeaf neu "Samhain" gan mai ei ystyr yw dechrau'r Gaeaf. Roedd i dywyllwch a'r nos arwyddocâd pwysig i'r Celtiaid ac yr oedd yn cael ei ystyried yn gyfnod grymus a chyffrous - roedd y diwrnod Celtaidd yn cychwyn yn ystod y nos.

Roedd Calan Gaeaf yn amser prysur i'r amaethwr, wrth iddo ddod â'r anifeiliaid i lawn i'r dyffryn o'r ucheldir, a chyfnod casglu'r cynhaeaf sef haidd, ceirch, gwenith, maip, afalau, a chnau.

Yn naturiol, felly, yr oedd yn gyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd i ddathlu a pharatoi ar gyfer misoedd y gaeaf. Ynghlwm â'r dathlu roedd yr ymarfer pwysig o dalu teyrnged i'r meirw, gan mai Calan Gaeaf oedd prif Wyl yr ysbrydion a rhoddwyd lle i ddefosiynau diwinyddol yn ogystal â gemau a hwyl.

Cennad y meirw
Roedd bwyd yn elfen bwysig o ddathliadau Calan Gaeaf gan ei fod yn gyfle i uno'r byw a'r meirw gyda'i gilydd. Rhoddwyd peth o'r bwyd o'r neilltu ar gyfer y meirw ac nid oedd hawl gan neb ei fwyta.

Trwy wneud hyn yr oedd y byw yn cofio ac yn anrhydeddu eu cyndadau, tra'r gred oedd bod y meirw hwythau yn eu tro yn edrych ar ôl eu hanwyliaid byw.

Fel rheol, mathau o gacennau neu dorthau bychain a wnaed ar gyfer y meirw.

Yng Nghymru, yn y Canol Oesoedd, yr arfer oedd i benaethiaid y gymuned (y rhai mwyaf cyfoethog), ddathlu gyda gwledd swmpus, tra âi'r tlodion o gwmpas yr ardal yn derbyn y torthau neu gacennau bychain yn enw eu cyndadau.

Roedd yr offrymau hyn yn cael eu galw yn "fwyd cennad y meirw". Yn wreiddiol, cuddiwyd wynebau'r "cenhadon" hyn i arbed y gymuned rhag dod i wybod am eu hamgylchiadau truenus a hefyd er mwyn iddyn nhw fedru efelychu'r meirw yn well. Mae'n bosib iawn mae o'r traddodiad hwn y tarddodd y trick or treat modern.

Roedd afalau a chnau yn arwyddocaol yn y dathliadau. Dyma'r ffrwythau olaf i'w casglu. Un o'r arferion yn ymwneud ag afalau oedd llenwi casgen gyda dwr hyd nes ei fod yn hanner llawn a rhoi'r afalau ynddo a'u troi o gwmpas nes eu bod yn dawnsio o gwmpas y dŵr.

Byddai'r cystadleuwyr wedyn yn gorfod penlinio wrth y gasgen a cheisio dal un o'r afalau gyda'u dannedd. Roedd yr arferiad hwn yn adlewyrchu treialon y meirw wrth iddyn nhw groesi drosodd i'r byd arall.

Roedd ein cyndadau yn credu fod y cysylltiad yma rhwng y byw a'r meirw yn sicrhau dyfodol diogel.

Dydd yr Holl Saint
Tra mai dathlu diwedd cyfnod sef tymor yr haf yr oedd Calan Gaeaf, yr oedd hefyd yn dathlu dechrau tymor newydd.

Wrth ddod â'r hen drefn i ben mae modd wedyn derbyn y drefn newydd. Felly hefyd mae marwolaeth yn ein rhyddhau o hualau'r byd hwn ac yn agor i ni fywyd newydd tragwyddol.

Mae'n hawdd gweld sut yr oedd yr eglwys gynnar yn medru defnyddio delweddau a chredoau'r hen wyliau yma a'u gwau i fewn i'r gred Gristnogol.

Gyda dyfodiad Cristnogaeth i Brydain, newidiwyd arwyddocâd Gŵyl Galan Gaeaf i fendithio eneidiau'r seintiau, a dechreuwyd ystyried Tachwedd 1 fel Dydd yr Holl Saint, Hollowmass (hollow - sy'n golygu 'sanctaidd' neu 'cysegredig'), a ddaeth wedyn yn Halloween.

Ar Dachwedd 2il, Dydd yr Holl Eneidiau, roedd cyfle i offrymu gweddïau i eneidiau'r rhai a fu farw yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ac a oedd bellach ym Mhurdan yn aros am gael mynediad i'r nefoedd.

Arferion Galan Gaeaf ar Lafar Gwlad
Er gwaethaf ymdrech yr eglwys i newid ystyr gwreiddiol Calan Gaeaf, mae'n amlwg na fuon nhw'n hollol llwyddiannus gan i'r syniadau am ysbrydion yn crwydro'r wlad, ynghyd ag ochr hwyliog yr wyl barhau ar hyd y canrifoedd.

Yn ei lyfr Welsh Folk-lore a gyhoeddwyd ym 1896, mae'r Parchedig Elias Owen yn sôn am y gred gyffredin yng Nghymru am ysbryd drwg a fyddai am hanner nos ar Galan Gaeaf yn cyhoeddi o fewn porth yr eglwys, enwau'r rhai a fyddai'n marw yn ystod y deuddeg mis canlynol i unrhyw un a fyddai'n dymuno clywed hynny!

Cyfeirir hefyd at arferiad gan "ferched ifanc Sir Ddinbych", o roi cnau ar farau grât y tân, yn ôl y nifer o gariadon oedd ganddyn nhw.

Roedd pob cneuen yn cynrychioli pob un o'r cariadon hyn, a'r gneuen gyntaf i dorri a disgyn o'r grât fyddai'r un oedd yn cynrychioli ei gwir gariad.

Roedd y weithred hon yn digwydd ar Galan Gaeaf. Digon hawdd gweld bod i'r arferion hyn eu tarddiad yn nhraddodiadau gwreiddiol gwyl Calan Gaeaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý