Ar hyd y blynyddoedd, bu Pafiliwn Corwen yn gartref hwylus i lawer o weithgareddau lleol a chenedlaethol. Ond bellach, mae hi'n amlwg fod ei gyflwr yn dirywio a bydd angen gwario tipyn i'w atgyweirio. Yn ddiweddar, gwahoddodd Cyngor Sir Ddinbych, perchnogion y Pafiliwn, d卯m ymgynghorwyr oedd yn cynnwys Pan-Leisure Consulting, Penseiri AEW i Roger Tym a'i Bartneriaid i weld sut y gellir gwella cyflwr y Pafiliwn i fod yn ganolfan ddiwylliannol o bwys eto. Yn nechrau mis Medi, cafwyd arddangosfa o gynlluniau'r ymgynghorwyr yn y Siop Un Alwad, Corwen a chyfle i'r bobl leol a thu hwnt i leisio eu barn.
Roedd gan yr ymgynghorwyr dri dewis:
a) Atgyweirio ac ail-wampio'r Pafiliwn presennol gan ostwng y nifer o seddi i 800.
b) Dymchwel y Pafiliwn presennol ac adeiladu pafiliwn newydd i ddal 400 o bobl.
c) Dymchwel y Pafiliwn presennol ac adeiladu pafiliwn newydd i ddal 750 o bobl.
Yn naturiol, fe fyddai'r ddau ddewis olaf yn costio tipyn mwy na'r dewis cyntaf. Ond fe ddaeth yn amlwg fod nifer o bobl yn anfodlon iawn ar y tri dewis uchod am eu bod yn mynnu gostwng y nifer o seddi.
Mae'r Pafiliwn presennol yn dal 1,200 o bobl a barn llawer yw y dylid cadw'r nifer o seddi fel ag y maent ar gyfer y cyngherddau mawr a'r gwyliau corawl. Nos Fawrth, Hydref 7, cynhaliwyd cyfarfod agored yn y Pafiliwn pryd y daeth nifer o fobl Edeyrnion a'r cylch ynghyd. Yn bresennol hefyd roedd aelodau o Bwyllgor Pafiliwn Pobl Edeyrnion Cyf. sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i gadw a gwella cyflwr y Pafiliwn a chynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych. Cafwyd trafodaeth fywiog iawn a'r farn amlwg oedd y dylid cael pedwerydd dewis sef i atgyweirio ac ailwampio'r Pafiliwn i ddal 1,200 o fobl a dim llai.
Wrth ail-wampio, hwyrach y gellid addasu'r ddwy adain ar gyfer amcanion eraill pan na fydd eu hangen. Ond teimlid yn bendant na ellid byth eto gynnal eisteddfodau o bwys na chyngherddau roc a chorawl oni bai fod lle i 1,200 o fobl yn y Pafiliwn.
Roedd amryw yn feirniadol hefyd nad oedd digon o drafod wedi bod rhwng swyddogion y Cyngor Sir ac aelodau o Bwyllgor Pafiliwn Pobl Edeyrnion Cyf.. Yn 么l eu datganiad i'r wasg, dyma a ddywedir "Ein barn ni am y ffordd ymlaen yw i ni a Chyngor Sir Ddinbych gyd-weithio er mwyn cael Pafiliwn yng Nghorwen y mae pobl Edeyrnion ei eisiau, - hynny yw, lle i eistedd 1,200 o bobl pan fydd angen ac i sicrhau y bydd y Pafiliwn yn cyrraedd y safon disgwyliedig ar gyfer anghenion yr unfed ganrif ar hugain.
"Felly, mae'n rhaid i ni, fel pwyllgor, gyd-weithio 芒'r Cyngor Sir ac i'r Cyngor Sir wrando ac addasu yn 么l dymuniadau pobl Edeyrnion a Chymru gyfan er sicrhau dyfodol i'r diwylliant Cymreig yng Ngogledd-Gorllewin Cymru."
Gan fod y rhan fwyaf ohonom ym mro'r Bedol wedi mynychu neu berfformio ym Mhafiliwn Corwen rhyw dro, carem wybod beth yw eich barn chi ynghylch dyfodol y Pafiliwn.
Sut Bafiliwn a garech chi ei weld yn y blynyddoedd i ddod?
Os oes gennych unrhyw sylwadau, beth am eu hanfon i Ysgrifennydd Pwyllgor Pafiliwn Pobl Edeymion Cyf. sef Huw Jones, 2 Vale View, Corwen, LL21 OBA neu i Swyddfa'r Bedol. Ond da chi, os oes gennych farn, mynegwch hi!
BRASLUN O HANES Y PAFILIWN
Neuadd Arddangos yn Lerpwl oedd y Pafiliwn i gychwyn ac fe'i prynwyd gan Ymddiriedolwyr Eisteddfod Gwyl y Banc, Corwen a oedd yn eisteddfod o bwys yn ei chyfnod. Fe'i hailadeiladwyd yng Nghorwen gan gwmni y Brodyr Miles, Rhosllannerchrugog ac fe gostiodd y cyfan 拢1,620. Agorwyd y Pafiliwn yn 1913 pan gynhaliwyd Basar enfawr i godi arian tuag at glirio'r ddyled.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, caewyd y Pafiliwn am gyfnod ac fe'i defnyddiwyd gan y Weinyddiaeth Fwyd hyd 1945. Yn y 70au cynnar, bu bron i'r Pafiliwn gael ei droi'n ffatri ond fe'i harbedwyd. Bu i Gyngor Dosbarth a Gwledig Edeyrnion wedyn wario cryn dipyn i foderneiddio'r adeilad gan osod gwres canolog y tu mewn.
Bu rhagor o wario eto gan Gyngor Dosbarth Glyndwr cyn iddynt ei drosglwyddo i ofal Cyngor Sir Ddinbych. Ar hyd y blynyddoedd, bu'r Pafiliwn yn gyrchfan i lawer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd pwysig iawn.
Yn 1919, daeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Gorwen a bu'n rhaid ymestyn y Pafiliwn i ddal miloedd mwy o bobl. Yn 1929, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf Urdd Gobaith Cymru yn y Pafiliwn ac yn 1946 fe gynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd eto yng Nghorwen , y gyntaf ar 么l yr Ail Ryfel Byd.
Yn 1951, 1974 ac yn yr 80au, cynhaliwyd pedair Eisteddfod Cadair a Thalaith Powys lwyddiannus iawn yn y Pafiliwn. Yn 1978 ac yn yr 80au a'r 90au cynhaliwyd tair G诺yl Gerdd Dant Cymru yma ac un ohonynt gan Ardal Penllyn. Yn ogystal, fe gynhaliwyd sawl cyngerdd prawf, 'Opportunity Knocks' a chynyrchiadau, gan bobl leol yn bennaf, o 'Hiawatha' a 'Elijah'.
Yn y 50au, sefydlwyd G诺yl Gerdd Dyfrdwy a Chlwyd a chynhaliwyd cyngherddau clasurol ac o safon uchel yn y Pafiliwn bob blwyddyn ers hynny. O'r 60au ymlaen, cynhaliwyd nifer dda o gyngherddau pop a roc yn y Pafiliwn a oedd yn denu miloedd o bobl ifanc o bob cwr o Gymru.
Cofiwn yn arbennig am gyngerdd pop olaf y grwp Edward H. Dafis. Cafwyd cyfarfodydd gwleidyddol o bwys yn y Pafiliwn hefyd gydag enwogion fel David Lloyd George ac Aneurin Bevan yn areithio yno.
A chofiwn am y gornestau paffio ac ymaflyd codwm a fu'n denu'r tyrfaoedd ac yn ddiweddar, y gornestau cneifio rhyngwladol. Gwnaeth y cwmn茂au teledu ddefnydd helaeth o'r Pafiliwn gan gynnal Gwyl y Corau am sawl blwyddyn, cystadleuaeth 'C芒n i Gymru' a sawl rhaglen arall.
Dim ond canran fechan o'r holl weithgareddau a gynhaliwyd yn y Pafiliwn yw'r uchod. Gobeithiwn yn fawr y parha'r Pafiliwn i wasanaethu'n lleol ac yn genedlaethol am flynyddoedd lawer.
EAJ