Fuoch chi'n gwylio'r Gemau Olympaidd yn ystod yr haf yma? Os gwelsoch chi gyfweliadau teledu 芒 rhai o aelodau T卯m Beicio llwyddiannus Prydain Fawr, mae'n bosib eich bod wedi gweld dyn o Bwllglas yno y tu 么l i'r beicwyr, ond heb ei adnabod.
Mae Doug Daley yn byw ym Mhwllglas ers 20 mlynedd bellach. Arferai ddod i feicio i'r ardal o'i gartref yng Nghilgwri, a dotio at yr ardal. Pan benodwyd Doug i'r swydd o Hyfforddwr Cenedlaethol ym 1986 gwelodd ei gyfle i symud i fyw yma. Bu'n gweithio'n y swydd am ddeng mlynedd, yn gwneud y gorau a allai i feicwyr Prydain, a hynny o gyllideb fechan iawn. Yna, ddeng mlynedd yn 么l, pan ddechreuodd y Loteri Cenedlaethol ariannu chwaraeon, daeth newid mawr i fyd beicio a newidiodd swydd Doug o fod yn hyfforddwr i fod yn Reolwr Logisteg y T卯m.
Dywed Doug fod yr ariannu yma, a'r ffordd caiff ei wario, wedi gweddnewid beicio ym Mhrydain. Fel rhan o gais Manceinion i ddenu'r Gemau Olympaidd yn 2012 codwyd Canolfan Genedlaethol ar gost o 拢10 miliwn a'r cyfleusterau gorau posib i feicwyr yno. Llundain, fodd bynnag, enillodd y cais ond mae'r ganolfan ym Manceinion wedi bod o fudd enfawr.
Tros y bedair mlynedd ddiwethaf yma, mae 拢22 miliwn wedi ei wario ar feicio yn unig ym Mhrydain Fawr. Eleni, ffrwyth y buddsoddiad hwn oedd gweld y T卯m yn ennill 14 o fedalau, yn cynnwys 8 medal aur.
Er mai dyma a welwn ar y teledu ac yn y blaen nid dyma'r stori gyflawn o bell ffordd. Mae arian y Loteri wedi golygu fod rhwydwaith effeithiol wedi ei greu i helpu beicwyr, o blant ysgol sy'n mynychu clybiau lleol, ymlaen i lefel Academi ac i'r goreuon - neu 'Athletwyr y podiwm' fel y'i gelwir - grantiau sy'n golygu eu bod yn gallu troi yn feicwyr proffesiynol llawn amser. Treuliant eu hamser ym Manceinion drwy'r gaeaf a theithiant i Tuscany yn ystod misoedd yr haf, i ymarfer yno.
Arferai Doug arbenigo mewn beicio ffordd pan oedd yn ieuengach. Bellach, fel Rheolwr Logisteg T卯m Prydain Fawr, fo sy'n gyfrifol am drefnu'r teithio, y llety ac ati a fo hefyd sy'n atebol os oes unrhyw gwestiynnu ar reolau yn y cystadleuthau mawrion. Bu raid iddo deithio i Beijing saith gwaith, i ofalu fod y manylyn lleiaf yn ei le, cyn i'r t卯m gael teithio allan yno.
Yn 么l Doug, roedd Gemau Olympaidd Beijing yn wledd anhygoel i'r llygad ond ni chred y gwelir unrhyw beth o'r fath eto, gan y byddai'n anfoesol gwario cymaint ac a wnaed yno. Roedd y cyfleusterau a adeiladwyd yn Beijing yn arbennig ar gyfer 2008 yn o anhygoel, meddai, ond mae'n cwestiynnu pa ddefnydd a wneir ohonynt rwan fod y Gemau ar ben. Cred y bydd unrhyw ganolfannau a adeiladir ar gyfer Gemau Llundain yn cael eu creu i bwrpas ac y bydd yr holl wlad yn elwa ohonynt ymhell ar 么l 2012. Ni wyr Doug beth fydd ei r么l o ym mharatoadau 2012 oherwydd bydd cryn dipyn o ad-drefnu swyddogion cyn hynny, a dydy yntau'n mynd ddim ieuengach, fel bob un arall ohonom. Mae wedi cael mwynhad mawr o'i waith ac wedi bod yn ddigon ffodus i deithio'n helaeth, a llynedd cyflwynwyd yr MBE iddo am ei wasanaeth.
Ymhyfrydwn yn ei lwyddiant a llwyddiant y T卯m Beicio, a chofiwch fod ar eich gwyliadwraeth os gwelwch ambell feiciwr hyd lwybrau ardal Rhuthun - efallai mai Doug fydd un ohonynt!