Yn sicr mae o'n llawn deilyngu'r anrhydedd hon, fer un a fu'n amaethwr blaenllaw ag sydd wedi arddangos ac ennill sawl tro yn y Sioe, ac wrth gwrs fel gŵr sydd yn adnabyddus drwy Gymru gyfan, a thu hwnt, fel datgeinydd poblogaidd.
Yr ardal gynrychiolir gan yr hen Sir Clwyd fydd yn noddi'r Sioe yn 2008, a bydd yr arian yn mynd tuag at ehangu'r Neuadd Fwyd, sydd yn hynod o bob¬logaidd yn ystod y Sioe ac oherwydd hynny wedi mynd yn rhy fach i'r holl ofynion.
Eisioes sefydlwyd pedwar pwyllgor o fewn y Sir i drefnu gweithgareddau i godi arian, sef pwyllgorau Abergele/Llanrwst, Llanelwy/Rhyl, Wrecsam a'r cylch, ac yn yr ardal hon, Rhuthun, Corwen, Cerrigydrudion a Dinbych.
Mae'r pwyllgor yma'n gryf gyda Glyn Owens yn gadeirydd.
I ddechrau'r gweithgareddau o ddifrif trefnwyd Swper Agoriadol gan Sheila Warner, ysgrifennydd pwyllgor Sir Clwyd, yng Ngwesty Kinmel Manor ar Ebrill 28,.
Ac yna mae'r pwyllgor lleol yn trefnu cyngerdd ym Mhafiliwn Rhyl ar Fai 4, gyda Chôr Godre'r Aran, Aled Wyn Davies a Siân Meinir gyda Dai Jones, Llanilar yn arwain y noson.
Mae yna waith mawr i'w wneud i godi arian ac os oes rhai o ddarllenwyr Y Bedol yn awyddus i noddi unrhyw weithgaredd bydd y pwyllgor lleol yn falch o glywed ganddynt.
|