Roeddwn yn gweithio yno am bedair wythnos yn cynorthwyo gweithwyr y ganolfan gyda gwersi Saesneg i blant ac oedolion y gymuned.
Pob bore buasai y plant meithrin yn dod yno i gael eu bwydo ac i gael ychydig o wersi craidd Saesneg.
Yn y prynhawn tro yr oedolion oedd cael gwersi Saesneg.
Yn ychwanegol i hyn roeddwn i a fy ngyd-weithwyr yn mynd o amgylch cartrefi trigolion yr ardal i geisio codi ymwybyddiaeth am y cyfleusterau oedd ar gael iddynt yn y ganolfan gymunedol ac i ymweld â rhai o'r teuluoedd mwyal di-freintiedig a oedd angen ychydig o gymorth ychwanegol.
Cefais hefyd y cyfle i ymweld â rhai o atyniadau y wlad yn ystod fy nhaith gan gynnwys tref Dharamsala (cartref y Dalai Lama) a'r Taj Mahal.
Roedd y cyfnod byr a dreulias yn y wlad enfawr hon yn gyfle gwych i ddysgu am arferion pobl India gan gynnwys eu crefydd.
Mae India yn wlad ag iddi sbectrwm eang. Mae Delhi yn ddinas fyrlymus iawn gyda thlodi dychrynllyd ond yna mae'r gogledd yn debyg iawn i Gymru gyda thir glas a thirlun prydferth.
Roedd y bobl yn hynod gyfeillgar. Mae'r gwartheg yn sanctaidd yn India ac felly yn cael y flaenoriaeth ar y ffyrdd bob tro!
Mae'r bwyd yn ddiddorol i ddweud y lleiaf!
|