Ganwyd Hafina yn yr hen Sir Feirionnydd, a derbyniodd ei haddysg yng Ngwyddelwern, Ysgol Ramadeg y Merched, Y Bala, ac Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, cyn dod yn fyfyriwr yng Ngholeg y Normal. Yna i Lundain i ddysgu - mewn ysgolion oedd yn eithaf her i athrawes ifanc. Bu'n Arweinydd Aelwyd yr Urdd yno ar gyfnod byrlymus ym mywyd Cymry Llundain. 'Roedd yn aelod gweithgar o Bwyllgor y Clwb Llyfrau Cymraeg - Clwb wnaeth gymaint i hyrwyddo cyhoeddi llyfrau Cymraeg, ac a arweiniodd at sefydlu Y Cyngor Llyfrau. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion, ac mae bellach yn un o'r Is-Lywyddion. Dychwelodd Hafina, a'i diweddar wr Cliff, yn 么l i Gymru ym 1979 i fyw yn Rhuthun, a thros y blynyddoedd cyfrannodd yn hael o'i hamser i'r rhan yna o Ddyffryn Clwyd. Bu'n olygydd Y Bedol, papur bro Rhuthun a'r cylch, ac fe geir ganddi hanes ac achau pobl yr ardal yn ymron bob rhifyn. Mae'n aelod a chyn Gadeirydd Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, yn un o sefydlwyr Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd, ac ysgrifennydd Grwp Hanes Lleol Rhuthun. Mae'n aelod o Gyngor Tref Rhuthun ac o bwyllgor Cymdeithas Ddinesig y dref. Bu'n anfon 'Llythyr Llundain' yn wythnosol i'r Faner a gwyr llawer ohonom am ei llwyddiant fel Is-olygydd a Golygydd Y Faner, hynny ar amser hynod anodd yn hanes y papur. Mae ganddi golofn wythnosol yn Western Mail , un yn y Cymro yn adolygu rhaglenni radio a theledu ac mae'n cyfrannu'n gyson i gylchgronau fel Yr Enfys, Y Wawr a Hel Achau, ac erthyglau Drafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych ac i rai Cymdeithas Hanes Meirionnydd. Bu Hafina'n weithgar hefo'r Eisteddfod Genedlaethol ac fe dderbyniwyd i Wisg Wen yr Orsedd er Anrhydedd ym 1992, a bu beirniadu yng nghystadleuaeth Fedal Rhyddiaith ym 1997 a 2000. Cyhoeddodd naw cyfrol, a dywed fod rhagor i ddod! Yn ogystal, eleni yr oedd yn un o feirniaid 'Llyfr y Flwyddyn'. Daeth Coleg y Normal yn rhan allweddol o Brifysgol Cymru Bangor ym 1996 - a theilwng yw cyfarch heddiw un o'i gyn-fyfyrwyr sydd wedi cyflawni cymaint er budd y diwylliant Cymreig chyfrannu cymaint i fro Dyffryn Clwyd. Barchus Is-Ganghellor - cyflwyni i Ti Hafina Clwyd yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru Bangor.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |