Fe ymadawodd ei rieni am Seland Newydd yn 么l ym 1926 o fferm Pant-y-gynnau, Bryn Saith Marchog gyda thri o blant. Fe anwyd tri o blant pellach ar 么l cyrraedd Seland Newydd ac mae o'n un ohonyn nhw. Beth sy'n arbennig o ddiddorol yw ei fod dal yn rhyfeddol o rugl yn yr iaith Gymraeg ac wedi ymddangos ar raglen Dai Jones - 'Ai Cymro neu Kiwi?' - ac mae ganddo 'Corwen' fel rhif gofrestru ar ei gar.
Ar un ymweliad cynharach yn y flwyddyn 2004 fe wnaeth o ddarganfod enw ei dad wedi ei gerfio yn nrws y stabl ym Mhant-y-gynnau, a oedd yn dweud CHJ 1911. Roedd yn un ar hugain oed ar y pryd.
Ar yr achlysur yma roedd am dynnu y panel o'r drws a mynd ag o'n 么l i Seland Newydd fel cofeb gyda chaniat芒d y teulu Griffiths sydd bellach biau'r fferm. Fe wnaethpwyd hyn ac mae o mor ddiolchgar.
Mae o hefyd yn ddiolchgar iawn i Rhys Lloyd sy'n gweithio yn yr Efail ym Mryn Saith Marchog am dynnu y panel, ac hefyd i siop Step Toes yn Rhuthun a drefnodd fframio'r panel.
Bu ei genhadaeth yn llwyddiannus, ac wedi gwneud ei waith fe ddychwelodd i Seland Newydd efo'r panel.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |