´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
Jim Rowlands Y canwr o Graigfechan
Ionawr 2002
Ym Mharis mae Jim Rowlands yn byw bellach. Bu'r Bedol yn gohebu â fo drwy'r e-bost.
Jim Rowlands, rydych chi'n dod o'r Graigfechan. Ai yno y cawsoch chi eich magu?
Hanes cymhleth yw hanes fy nheulu i yng Nghymru. Mae'r Rowlands' yn dod o Gaergybi (heddiw mae 72 ohonyn nhw yno), Amlwch a Llangollen ac mae gen i ychydig o deulu ym Mwcle hefyd.

Daeth teulu fy mam, Barthelemy, o Ffrainc ond roedd aelodau o'r teulu yn byw yng Nghymru hefyd - chwaer fy nhaid yn Neganwy ac ewythr i mi ym Mhrestatyn. Roedd taid fy mam yn briod â Chymraes. Cymraeg oedd iaith tad fy nhad a Ffrangeg oedd iaith tad fy mam; ond bu'r ddau farw cyn gallu siarad â'u plant. Felly dim ond Saesneg oedd iaith y teulu. Problem fawr i fi!

Problem arall oedd fy hanes. Ces fy ngeni yr ochr arall i Glawdd Offa (1.6 milltir!dyna drueni) achos roedd fy nhad yn gweithio mewn eglwys yn Lerpwl a mam mewn ysgol breifat.

Dwi'n meddwl fy mod i'n teimlo'n lot mwy Cymreig o achos y problemau hyn - dim iaith, diwylliant teuluol cyfoethog ond heb lais i fynegi fy hun. Ro'n i mewn ysgolion Saesneg lle doedd neb ond Rowlands', Jones', Williams', Davies', Roberts', ond neb yn siarad Cymraeg.

A nawr dwi'n hapus iawn. Dwi'n dysgu Cymraeg!! Dwi'n siarad Ffrangeg yn rhugl!! Mae fy rhieni yn byw yn Graigfechan! Mae fy nhad yn gweithio tipyn bach mewn capeli yn Rhuthun! Ffrances yw fy ngwraig! A dwi'n byw ym Mharis!

Dwi'n gweld fy nheulu yn gwenu!

Ac mi wnaethoch chi dreulio cyfnod yn Strasbwrg? Sut y digwyddodd hynny?
Yn ddeunaw oed mi adawais i fynd i Brifysgol Ripon, a chyfarfod Anne (Rowlands nawr). Cyfieithydd ydi Anne ac felly Strasbwrg oedd y ddinas iawn i weithio gyda'r ieithoedd. Yn Alsace mae hi wedi dechrau siarad Saesneg yn reit dda a dwi wedi dechrau dysgu Cymraeg. Od ynte?

Ydych chi'n teimlo'n hanner Ffrancwr?
Dim lot. Pe bawn i eisiau fe allwn i ofyn am basport Ffrengig ac mae gen i bonnes references. Ond mae'n wir fy mod i'n teimlo'n Gymro 100% - Cymro sy'n siarad Ffrangeg yn iawn a sy'n hoffi gwin coch! Roedd rhaid i mi adael cyn sylweddoli hyn.

Sut bu i chi ddechrau canu?
Yn Ripon yn Lloegr roedd yna gyngerdd arbennig, Bad Bands Night, ac mi wnes i ganu....yn erchyll!! Ond mi enillais!

A bellach rydych chi'n canu efo grŵp. Beth ydi enw'r grwp?
Mirror Field, Cae Drych.

Pam yr enw hwn?
Achos roedd gen i freuddwydion am Gwm Tryweryn. Roedd o fel cae hardd heb donnau ond roedd hanes ofnadwy o dan y dŵr. Mi ddywedodd rhywun wrthyf fi bod lot o deuluoedd o'r enw Rowlands yn y cwm cyn y digwyddiad ac felly mae gen i lot o ddiddordeb yn y stori.

Sut fath o ganeuon ydych chi'n eu canu?
Rydan ni'n creu dau fath o gerddoriaeth. Eitha' lot o roc/pop yn Saesneg a Chymraeg a chaneuon gwerin lle mae popeth yn cael ei ganu yn Gymraeg.

Rydan ni'n canu am bentrefi (Lost in Abergele, Abertawe Girl, Jig Graigfechan, Deganwy) ac am storïau hanesyddol (Allen Vannin, Plant y Llech). Mae gennym ni gitâr, ffidil, drymiau, bâs ac offerynnau taro ac felly rydym ni'n gallu canu caneuon lle mae pawb yn dawnsio a chaneuon trist hefyd.

Ydi eich disgiau chi ar gael yng Nghymru?
Dim ond ar y we ar hyn o bryd. Dwi'n mynd i gyfarfod cwmnïau dosbarthu cyn y Nadolig.

Yn Ffrainc mae disgiau ymhob siop recordiau ac mae'n wych gweld ychydig o gerddoriaeth Gymreig yn Ffrainc o'r diwedd achos mae'n rhaid chwilio'n galed am ddisg pop neu ganu gwerin o Gymru. Ond mae digon o ddisgiau o'r Alban, lwerddon a Llydaw ar gael - pam? wn i ddim.

Beth ydi eich disg ddiweddaraf chi?
Pasbort ydi enw'r ddisg newydd - 13 o ganeuon yn Gymraeg heb air o Saesneg!! Anodd os ydych chi'n dod o Ffrainc mae'n siŵr.

Mae'r clawr yn dangos pasport Cymru wedi ei wneud ar gyfrifiadur. Mae'r geiriau yn sôn am bethau gwahanol (hanes, cwrw, glo, ffrindiau, Cymru heddiw, Cymru ddoe, teulu, ayb).

Beth yw eich gobeithion am y dyfodol?
1. Hyrwyddo Cymru yn Ffrainc
2. Dod adre' efo gwraig a phlant sy'n ddwyieithog (neu'n siarad tair iaith)
3. Canu yng Nghymru
4. Siarad Cymraeg yn rhugl.

Beth ydych chi'n feddwl o'r sîn bop yng Nghymru?
Yma yn Ffrainc mae'n rhaid dangos bod Cymru'n fyw, ei bod yn wlad ieuanc, ddiddorol ac arbennig. Mi fuaswn i'n hapus i weld mwy o Ffrancwyr nac erioed yn dod i Gymru.

Pan dwi'n canu mae rhaid sgwrsio tipyn rhwng y caneuon ac mae'n dda gweld 300 neu 3000 o bobl yn gwrando ac yn clywed gair am wlad newydd, gwlad hardd, iaith eitha' dirgel...a deall bod lot o bobl yn byw mewn gwlad fach lle mae nhw'n siarad iaith arall heblaw Saesneg. Hefyd mae'r gerddoriaeth yn un hapus er mwyn rhoi darlun da o Gymru.

Oes gennych chi atgofion am gyngherddau arbennig?
Oes yn y Stade de France cyn gêm Ffrainc a Chymru ym mis Mawrth, dydd Sant Patrick! Gweld cymaint o Gymry ym Mharis, a thîm sydd yn ennill ac yn chwarae rygbi'n dda.

Hefyd y cyngerdd efo Dafydd Iwan ym Mharis efo Cymdeithas Cymru 1999! Anghredadwy!!!

Oes gennych chi neges i ddarllenwyr Y Bedol?
Mae'r Ffrancwyr yn edrych arnoch chi! Byddwch yn barod i gael miloedd o ymwelwyr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý