大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Stephen Macfarlane a'i briod ar eu hymweliad 芒 Neuadd Pwllglas gyda Menna Jones, Ieuan Ellis, Myfyr Williams a Susan Hughes. Y Neuadd Bentref, Pwllglas
Adnewyddu adnodd allweddul i un o bentrefi'r fro.

Yn ystod Pasg 1954, hanner can mlynedd yn 么l, gwelwyd sgerbwd anferth o adeilad yn cael ei godi ar ddarn o dir ynghanol pentref Pwllglas. Hwn, wrth gwrs, oedd ffr芒m ddur a choncrid y neuadd newydd.

Roedd sylfeini'r adeilad wedi eu gosod yn ystod yr hydref 1953 gan nifer o wirfoddolwyr lleol ac felly, yn ystod y Pasg 1954, fe gyrhaeddodd lori gyda'r llwyth cyntaf o drawstiau concrid. Am y pythefnos nesaf, codwyd y trawstiau i'w lle gan aelodau o'r 'International Voluntary Service for Peace' (IVSP), - gwirfoddolwyr oedd y rhain oedd yn cynnwys myfyrwyr, athrawon, penseiri ac eraill a fyddai'n teithio dros y byd i ymgymryd 芒 phrosiectau gwirfoddol fel clirio slymiau, helpu pobl ar 么l llifogydd, codi neuaddau pentref ac yn y blaen.

Daeth tair merch a chwe dyn o bob rhan o'r wlad i Bwllglas i gynorthwyo gyda'r gwaith. Yn eu mysg roedd pensaer ifanc o'r enw Stephen Macfarlane, ac yn ystod ei arhosiad yma, fe syrthiodd mewn cariad ag un o'r merched o'r t卯m gwirfoddol a phriodi ymhen amser!

Daeth y syniad i godi neuadd ym Mhwllglas ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd pan agorwyd cronfa arbennig i groesawu'r milwyr yn 么l o'r rhyfel. Sefydlwyd Cronfa'r Neuadd Newydd yn 1946 a bu i amryw o'r cyn-filwyr eu hunain gyfrannu'n hael iddi. Casglwyd 拢3,756 yn lleol ac roedd yn arian mawr yn y cyfnod hynny. Hefyd, derbyniwyd 拢1,337 fel grant gan y Weinyddiaeth Addysg a 拢1,300 gan 'The Church Act Fund'. Casglwyd cyfanswm o 拢6,681, gan gynnwys llog, ac amcangyfrif o'r gost i adeiladu'r neuadd oedd 拢6,604.

Bu'r pwyllgor llywio yn hynod o brysur ar hyd y blynyddoedd. Aelodau'r pwyllgor oedd Ivor Williams, Cadeirydd; hyd nes iddo symud i Geredigion i fyw ac yna Gwilym Williams yn ei ddilyn; Janet Thomas, Ysgrifennydd; Hugh Hughes, Trysorydd; Emyr Roberts, Ysgfennydd Ariannol; J. Davies, Cadeirydd Pwyllgor Adeiladu; Olive Turpin, Cadeirydd Pwyllgor y Chwiorydd; a Gwilym Williams arall a oedd yn reolwr cyffredinol ar y gwaith adeiladu.

Hefyd bu H. M. Lloyd, sef Ysgrifennydd Cyngor Cymunedau Gwledig Sir Ddinbych, yn gymorth mawr iddynt. Tybed oes yna berthnasau i'r rhain yn parhau i fyw yn yr ardal? Byddai'n ddiddorol cael gwybod.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf bu nifer o wirfoddolwyr a chontractwyr lleol wrthi yn cwblhau'r gwaith adeiladu ac erbyn 1959, roedd y neuadd yn barod. Ar Ddydd Sadwrn, Hydref 10, 1959, bu'r agoriad swyddogol. Yn ystod cyfarfod y pnawn, cafwyd nifer o anerchiadau gan y Cadeirydd, y Trysorydd, a'r Pensaer ac agorwyd y Neuadd yn swyddogol gan Ivor Williams, Heswall a'r siaradwr gwadd oedd Syr Williams Jones, CBE. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyngerdd mawreddog gyda Iorwerth Jones, Llanfair yn Llywydd.

Yr artistiaid oedd Jesse Roberts, Treuddyn, (Bariton); Peter Davies, Coedllai, (Tenor); Alwena Roberts, Llanfair (Soprano); Robert Williams. Rhewl a Aeryn Owen Jones, Llangwm, (Adroddwyr); W. R. Davies, Derwen, (Canwr Penillion) a Pharti Hogiau Clwyd. Cyfeilydd y noson oedd Alun Roberts, Pwllglas a'r arweinydd oedd Dewi Jones, Rhuthun. Pris mynediad oedd hanner coron a swllt i blant!

Hanner can mlynedd ymlaen ...
Ddydd Sadwrn, Mawrth 27, 2004, daeth Stephen Macfarlane, y pensaer gwreiddiol, a'i briod, yn 么l i Bwllglas i weld y neuadd. Cawsant groeso cynnes iawn gan Menna Jones, Islwyn, Cadeirydd Pwyllgor y Neuadd, ac aelodau eraill y pwyllgor. Rydym yn siwr ei fod yn falch iawn o weld y neuadd yn parhau ar ei thraed a'r adeilad mewn cyflwr da.

Braf yw dweud hefyd fod yna amrywiaeth dda o weithgareddau yn cael eu cynnal o hyd yn y neuadd. Edrychwn ymlaen i 2009 pryd y cawn ddathlu'r agoriad swyddogol.

E.A.J.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy