´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
Clwb y Dyffryn, Rhuthun Clwb ffitrwydd newydd
Ebrill 2002
Mae'r diddordeb mewn cadw'n iach yn cynyddu bob dydd a hynny oherwydd nifer o resymau.

Efallai fod un rheswm yn bwysicach na'r lleill, sef bod modd dadansoddi salwch neu anhwylder yn llawer manylach nac yn y gorffennol, a cheisio dilyn cyfarwyddiadau neu awgrymiadau i'w osgoi os oes modd.

Ychydig iawn o gefnogaeth a gafodd yr athro gwyddonol a ddywedodd flynyddoedd yn ôl bod ysmygu yn niweidiol i'r iechyd. Ond erbyn heddiw, mae'r cwmnïau tybaco yn fodlon derbyn bod yr honiad yn gywir.

Ond er bod llawer llai ohonom yn ysmygu erbyn hyn, mae ffactorau eraill yn bygwth ein hiechyd er enghraifft y cynnydd mewn nwyon yn yr awyr a ddaw o geir a cherbydau, gor yfed alcohol, ein dewiso fwydydd, a segurdod neu ddiogi corfforol.

Dewis eang o gynghorion
Mae'r dewis o gynghorion ar sut i gadw'n iach ac atal dirywiad anamserol y corff yn eang: llyncu tabledi fitaminau a pherlysiau, bwyta llai o fraster, yfed llai o goffi, bwyta llai o gig, yfed galwyn o ddŵr bob dydd, sefyll ar eich pen, ac ymlaen ac ymlaen.

Cymedroldeb ymhob dim yw cyngor llawer un, ac mae'n fater i bob unigolyn benderfynu ar yr hyn sy'n addas iddo fo/hi yn ôl ei (h)amgylchiadau personol, a chyflwr ei (h)iechyd.

Un ffaith sy'n dod yn fwy amlwg yw ein bod yn mynd yn drymach (h.y. yn dewach). I lawer un gall fod yn broblem genetig, ond i eraill, gall fod yn ganlyniad diet gwael a diffyg ymarfer corff.

Ond er bod llawer un yn ymwybodol o'i broblemau nid oes digon o ddarpariaeth leol ar eu cyfer. Mae'n bwysig felly bod y rhai sydd am lwyddo mewn busnes yn gweld eu cyfle ac ymateb i'r gofynion drwy gynnig gwasanaeth o'r safon orau.

Dyma sy'n cael ei gynnig yng Nghlwb y Dyffryn yn Rhydwrial, Ffordd yr Wyddgrug gan Robert a Haf.

Ailgodi hen adeilad fferm
Cafwyd caniatâd gan y Cyngor i ailgodi hen adeilad fferm yn Rhydwrial at ddefnydd y teulu, ond bellach mae'n cael ei addasu yn Glwb Hamdden a Chlwb Gwledig.

Cyn penderfynu symud ymlaen â'r gwaith, bu Robert a Haf yn crwydro sawl ardal i weld ac i asesu'r math o ddarpariaeth a fyddai ei angen. Daethant i'r casgliad bod gwir angen clwb o'r fath yn Nyffryn Clwyd, ac yn Rhuthun, a dyma eistedd i lawr i gynllunio'r manylion.

Anodd yw ceisio disgrifio ar bapur fel hyn holl gynnwys y Clwb, ond mae'n rhaid dweud fod y ddarpariaeth o'r radd flaenaf, a'r staff wedi eu hyfforddi ar gyfer y gwaith.

Efallai mae'r prif atyniad yw'r gymnasiwm gyda'r holl offer cadw'n heini diweddaraf - rhai y mae modd eu rhaglennu i ymateb i ofynion pob unigolyn o ran lefel ei ffitrwydd a'i (g)allu.

Yn ogystal, fe geir sawna/ystafell stêm, jacwsi a solariwm. Gellir cael triniaethau iachusol megis aromatherapi, raiki, 'massage Indiaidd' i'r pen a therapi lliw i ddelio â'r broblem o effaith golau dydd neu ddiffyg golau dydd ar rai unigolion. Hefyd mae yma ystafelloedd trin gwallt (merched a dynion) ac ystafell harddu.

Cyfleusterau cynadledda
Gobeithir denu cynadleddau i'r ystafell gynhadledd arbennig sy'n cynnwys cyfleusterau cynadledda a fideo, cyflwyniadau power point, a sgrîn deledu plasma (51") yr un fath â'r un sydd yn y gymnasiwm.

Os yw hyn oll y tu hwnt i'ch cyrraedd fe fydd hi'n bosib i chi ddilyn sesiynau aerobics a yoga yn yr ystafell ffitrwydd, neu ymlacio yn y lolfa neu ar y teras haul.

Bwriad Robert a Haf yw creu clwb cymdeithasol yn ogystal â chanolfan ffitrwydd a hamdden, ac mae nosweithiau barbeciw a thân gwyllt yn fwriad ganddyn nhw.

Maen nhw'n gobeithio cwblhau'r holl waith a gosod pob dim yn ei le erbyn canol mis Ebrill; os ydych yn ymuno â'r Clwb cyn yr agoriad swyddogol bryd hynny, ni fydd rhaid i chi dalu'r tâl ymaelodi o £175.

Ymateb da
Hyd yma mae'r ymateb i'r fenter yn lleol wedi bod yn dda iawn, ac fe ragwelir y bydd yn rhaid codi nifer y staff i tua 20 pan fydd pob dim ar fynd.

Mae'r fenter eisoes wedi creu gwaith i grefftwyr lleol, a braf oedd gweld y defnydd helaeth o dderw a llechi Cymreig yn yr adeilad.

Efallai na fuasai'r Rhufeiniaid yn rhyfeddu gymaint at y system gynhesu lloriau'r cawodydd efo dwr cynnes pe baen nhw'n dychwelyd i Ruthun, ond mi fuasen nhw wedi rhyfeddu at y dechnoleg newydd ddiweddaraf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý