Faint o ddarllenwyr Y Bedol sydd wedi ymweld 芒 dinas Arica yng ngogledd Chile tybed? Ychydig iawn dwi'n siwr - doeddwn innau heb glywed am y lle tan y llynedd, ond erbyn hyn rwyf wedi treulio mis yn gweithio yno.
Sut fath o waith sydd yn mynd 芒 dyn mor bell o gartref? Wel, ymchwil wyddonol wrth gwrs! Dros y M么r Tawel tu hwnt i arfordir gorllewinol De America mae'r llen gymylau fwyaf yn y byd - haen sy'n ymestyn fil a mwy o filltiroedd, tua milltir uwchben y m么r. Ac mae'r llen yn bwysig i ni, oherwydd mae'n adlewyrchu llawer o oleuni'r haul yn 么l i'r gofod - ac felly'n helpu i leddfu Effaith Ty Gwydr. Ond po fwyaf yr astudiwn y llen, y lleiaf fyddwn yn ei ddeall - mae fel petai ganddi fywyd ei hunan, yn newid ei thrwch bob dydd a weithiau'n rhwygo'n ddarnau cyn ail-ffurfio. Y cwestiwn mawr i ni yw sut bydd y llen yn newid fel mae'r Ddaear yn cynhesu - fydd hi'n lleihau gan atgyfnerthu'r cynhesu neu'n ehangu gan leddfu'r cynnydd? Ac i ateb y cwestiwn hwn rhaid mynd a mesur yn fanwl beth sydd yno heddiw.
Felly i ffwrdd 芒 ni i Arica - tua ugan ohonom o brifysgolion Manceinion a Leeds - efo dwy awyren ymchwil, i ymuno 芒 thair awyren ymchwil o America. Mae Arica yn galw ei hunan 'ciudad de la eterna primavera' - dinas y Gwanwyn tragywydd - er mwyn denu twristiaid, felly dydi hi ddim yn lle rhy ddrwg! Ond er gwaethaf y cymylau bondigrybwyll dyw hi bron byth yn glawio yn Arica - dim ond rhyw 0.7mm o law maent yn ei gael yn flynyddol ar gyfartaledd, ac fe fuont 14 mlynedd un tro heb law o gwbl! Yn ffodus, mae gwynt y m么r yn cadw arfordir Chile'n gymhedrol o ran tymheredd - rhyw 23C oedd hi ym mis Tachwedd pan oeddem ni yno, ac nid yw'n amrywio llawer o ddydd i ddydd nag yn wir o un mis i'r llall.
Efo'r fath sychder nid yw'n syndod clywed mai anialwch llwyr yw'r wlad o amgylch - does dim byd yn tyfu yno. Eithr mae gan Arica ddigon o dd诺r, wedi'i gludo o'r Andes tua 200km i ffwrdd, ac yn y ddinas mae coed, llwyni a blodau lle maent wedi bod yn dyfrhau.
Gellwch ddychmygu ein syndod, o ofyn y cwestiwn 'Beth mae pobl yn ei wneud yn y lle yma?' i glywed yr ateb 'Allforio cynnyrch amaethyddol'. Yn anhygoel, mae dyffrynnoedd i'r dwyrain o Arica lle maent yn tyfu pob math o gnydau yn yr anialwch drwy ddefnyddio d诺r o'r Andes - coed olewydd, tomatos, nionod, india corn - ac wrth gwrs yr afocado sy'n rhan annatod o bob pryd bwyd yn Chile.
Sut bobl yw'r Chileaid? Pobl ffein iawn a dweud y gwir - yn sicr yn Arica. Roedd gyrru car yno'n brofiad pleserus gyda digon o amser gan bawb a thipyn gwell safon gyrru nag a gewch ym Manceinion! Ac fe gewch ddigon o ymarfer gyrru - mae dinasoedd Chile mor bell oddi wrth ei gilydd fel y gall gymeryd 10-12 awr i fynd o un i'r llall.
Wedi gorffen y gwaith ymchwil aeth y wraig a minnau am wyliau i weld tipyn o'r wlad. I ddechrau aethom i'r altiplano, y llwyfandir uchel i'r dwyrain o Arica lle mae'r bobl frodorol, yr Aymara, yn ffermio'u lamas ac alpacas. Yna cymerom fws dros nos o Arica i Antofagasta i'r de - rhywbeth na fyddwn yn breuddwydio ei wneud yn Ewrop. Ond mae trafnidiaeth cyhoeddus Chile mewn byd gwahanol i'r llanast sydd ganddom ni - mae'r bysiau'n llawer mwy cyfforddus na'n trenau ni ac yn rhad hefyd. Nid yn unig gallwch ymestyn eich coesau ar y bws, gellwch mwy neu lai orwedd yn fflat.
O Antofagasta aethom tua'r Andes eto i weld pentref hynafol San Pedro de Atacama, gwerddon yn yr anialwch a phrif gyrchfan twristaidd Chile. Yno gwelsom losgfynyddoedd Cordillera'r Andes yn mygu uwch ein pennau, gyrru am dros awr ar draws gwastadedd o halen i gyrraedd llynnoedd yn llawn fflamingos, a chrwydro cymoedd anial y Valle de la Luna heb neb arall yno. Profiad bythgofiadwy'n siwr.
Mae Chile'n wlad sy'n newid yn gyflym iawn. Bu dan orthrwm milwrol yn saithdegau ac wythdegau'r ganrif ddiwethaf, ac mae'n amlwg i hynny adael creithiau dwfn ar y bobl. Yn ffodus mae gan Chile hanes hir o ddemocratiaeth ac ni fu'n anodd ei ail-sefydlu ar 么l i'r Cadfridog Pinochet roi'r ffidil yn y to, ond dim ond yn ddiweddar iawn y dechreuodd barnwyr y wlad ymchwilio i drais y cyfnod milwrol.
Bellach mae gan Chile - un o wledydd mwyaf Catholigaidd y byd - arlywydd fenywaidd, ac ar ben hynny un sy'n fam sengl. Copr yw phrif gynnyrch y wlad - copr sy'n cael ei gloddio o anialwch yr Atacama, a chyda pris copr wedi bod mor uchel tan yn ddiweddar mae economi Chile'n ffynnu.
A beth oedd canlyniad ein hastudiaethau gwyddonol? Rhaid aros wrth gwrs i gael yr ateb llawn, sy'n gallu cymeryd blynyddoedd, ond mae'n amlwg fod y llygredd o losgi mwyn copr - i ryddhau'r metel - yn cael effaith sylweddol ar y llen o gymylau gannoedd o filltiroedd i ffwrdd dros y M么r Tawel. A pha effaith? Mae'r llygredd yn gwneud y llen yn fwy sefydlog ac felly'n adlewyrchu mwy o oleuni'r haul. A yw llygredd felly'n llesol? Rhyfedd o fyd.