Treuliodd y c么r y rhan gyntaf o'r wythnos yn nhref Ceske Budejovice yn ne Bohemia, rhan wledig o'r weriniaeth. Cawsom gyfle i ymweld 芒 nifer o drefi hynafol hardd, Trebon, a Cesky Krumlov, a'u toeau coch, adeiladau lliwgar patrymog a'u strydoedd culion caregog. Ymweld 芒 bragdy Budweiser Yn ogystal, cawsom gyfle i ymweld 芒 bragdy Budweiser Budvar a gweld y gwaith a'r gwahanol brosesau bragu cwrw. Roedden ni yn canu yn Neuadd y Marchogion mewn Chateau yn nhref Jindrichuv Hradrec ar y nos Lun, a chafodd y c么r, unawd Elin, deuawd Elin a Morfudd a Thriawd Triglwm ymateb gwych gan y gynulleidfa werthfawrogol. Yna, dydd Mawrth dyma droi ein golygon i gyfeiriad Pr芒g, neu Praha. Cawsom yma ddigon o gyfle i grwydro'r dref hardd a'i hadeiladau gwych. Aethom i ymweld 芒 Sgw芒r yr Hen Dref, y cloc enwog, y castell a'r Eglwys Gadeiriol. Trip ar yr Afon Valta Ar y nos Fercher, aethom am drip ar yr Afon Valta a hefyd gweld y Kirzik Fountain Show, cyfuniad cyffrous oedd hwn o ddwr, golau a cherddoriaeth ac roedd yn werth ei weld. Brynhawn dydd Mercher cawsom y profiad arbennig o ganu yn eglwys Sant Nicholas ar sgw芒r yr Hen Dref. Ar y nos lau roeddem yn canu yn Eglwys Sant Giles yn Nymburk, ychydig y tu allan i Praha. Roedd y cyngerdd hwn yn rhan o ddathliad bywyd y cyfansoddwr Czech o'r 18ed ganrif, B M Cernohorsky. Gwrando ar g么r lleol Yn ystod rhan gynta'r cyngerdd cawsom glywed c么r lleol yn canu offeren o waith Dvorak, a ninnau yn canu yn yr ail hanner. Unwaith eto cafodd y c么r a'r unigolion groeso a derbyniad ardderchog gan gynulleidfa oedd yn amlwg yn mwynhau pob math o gerddoriaeth. Diwrnod yn Praha ar y dydd Gwener cyn troi am adre wedi cael taith fythgofiadwy.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |