2000
Gosodwyd plac ar sawl capel ac eglwys yn y fro, yn cyhoeddi bod Iesu Grist wedi cael ei eni dwy fil o flynyddoedd yn 么l.
Daeth 70 mlynedd o draddodiad Eisteddfodol i ben yn ardal Uwchaled pan gynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol olaf Llangwm yn ystod mis Mehefin. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn wreiddiol i godi arian ar gyfer talu cost adeiladu Capel y Groes gan Annibynwyr yr ardal yn 1930.
Roedd tri ch么r lleol yn dathlu ar 么l iddynt ennill y wobr gyntaf yng nghystadlaethau'r corau meibion, merched a chymysg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli. Camp yn wir!
Yn Rhuthun ar Fedi 16 dadorchuddiwyd plac ar adeilad banc y NatWest gan Dafydd Iwan i goffau dechrau ymgyrch milwrol Owain Glyndwr pan losgodd y dref yn ulw ar Fedi 18 1400.
2001
Lledaenodd cwmwl du dros yr ardal yn ystod y flwyddyn gyda dyfodiad y Clwy Traed a'r Genau. Bu rhaid rhoi'r gorau i sawl gweithgaredd cymdeithasol yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf ac nid oedd modd symud anifeiliaid na'u gwerthu mewn ffeiriau. Cafodd hyn effaith andwyol ar y gymuned amaeth ac yn ei sgil tranc nifer o ffeiriau anifeiliaid mewn sawl tre, gan gynnwys Corwen.
Cynhaliwyd y Cyfrifiad drwy Brydain ym mis Mawrth, gyda'r ystadegau yn dangos bod mwy o bobl yn medru'r Gymraeg yn Sir Ddinbych ers Cyfrifiad 1991, sef cynnydd o 13.6 i 16.03%.
Er yr holl ofid ynglyn 芒 fyddai Eisteddfod yn cael ei chynnal oherwydd y Clwy Traed a Genau, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych lwyddiannus ar fferm Brwcws, ger Dinbych, yn ystod wythnos gyntaf Awst.
Diweddodd y flwyddyn hon gyda llifogydd na welwyd eu tebyg ers sawl blwyddyn. Gwnaed difrod i adeiladau a chartrefi, yn arbennig yn Stryd y Felin a Stryd Mwrog yn Rhuthun.
2002
Wedi pedair blynedd heb siop, agorwyd Siop y Fro yn swyddogol yng Nghlawddnewydd ar Chwefror 16. Wedi misoedd o ymgyrchu i gasglu arian ar gyfer y fenter, ac addasu uned oedd yn rhan o Ganolfan Cae Cymro, roedd y siop yn gydweithredol yn barod. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn ychwanegwyd swyddfa bost.
Ym mis Mai, agorwyd atyniad twristiaeth newydd yn nhre Rhuthun, sef Carchar Rhuthun, ar 么l gwaith adfer gwerth dwy filiwn o bunnoedd. Mae'r amgueddfa o fewn y carchar a fodelwyd ar gynllun carchar enwog Pentonville, yn cyfleu'n effeithiol iawn bywyd y tu mewn i garchar yn oes Fictoria.
Ar ddiwedd y flwyddyn roedd Y Bedol yn dathlu 25 mlynedd ers i griw o Gymry lleol ddod at ei gilydd i sefydlu papur bro ar gyfer yr ardal yn Rhagfyr 1977.
2003
Ar Ionawr 18 cafwyd cyngerdd o ddoniau lleol i ddathlu chwarter canrif bodolaeth Y Bedol. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf yn Ionawr 1978.
Daeth diwedd cyfnod ym Mhafiliwn Corwen gyda chyngerdd olaf Gwyl Gerdd Dyfrdwy a Chlwyd - 48 o flynyddoedd ers ei sefydlu yn 1955. Un a gafodd y cyfle i feithrin ei ganu proffesiynol yn yr Wyl hon oedd y canwr opera o Bantglas, Bryn Terfel.
Daeth achos y Bedyddwyr yng Nghorwen i ben gyda chau Capel Cernyw. Ar Ragfyr 29 cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yng Nghapel Sion, Bryneglwys, cyn ei gau. Adeiladwyd y capel yn 1874 ond oherwydd cyflwr truenus yr adeilad bu rhaid ei ddymchwel.
2004
Yn ystod Ionawr bu aelodau Capel y Rhiw, Pwllglas, yn dathlu penblwydd y capel yn gant oed.
Ar ddechrau Mawrth dewiswyd Rhuthun ynghyd 芒 saith o drefi yng Nghymru i hyrwyddo'r Gymraeg gan y Bwrdd Iaith trwy gynnal 'Wythnos Gymraeg yn Gyntaf'. Cynhaliwyd sawl gweithgaredd yn ystod yr wythnos ar gyfer busnesau, plant, dysgwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Ym mis Ebrill daeth cyfnod newydd i'r Bedol pan symudwyd y swyddfa o Stryd y Ffynnon i Stryd Clwyd.
2005
Bu Cymdeithas Drama Rhuthun yn dathlu pum mlynedd ar hugain ers perfformio ei drama gyntaf yn 1980, sef Gwraig y Ffermwr, gyda'r Parch John Owen yn cynhyrchu. Un o'r actorion ifanc ar y cychwyn oedd Rhys Ifans sydd bellach yn un o ser y byd ffilmiau.
Bu trigolion Clawddnewydd yn dathlu ennill Gwobr Pentref y Flwyddyn gan gwmni Nwy Calor - nid dyma'r tro cyntaf iddynt dderbyn yr anrhydedd hon. Yn ogystal 芒 derbyn tlws cawsant wobrau gwerth 拢3000.
Roedd c么r hynaf ardal Y Bedol yn dathlu cael ei benblwydd yn 75 oed, sef C么r Meibion Llangwm. Sefydlwyd y c么r yn wreiddiol i gystadlu yn Eisteddfod Gadeiriol Llangwm yn 1930.
2006
Ym mis Ionawr llwyfannodd Cymdeithas Drama Rhuthun ei chynhyrchiad olaf, sef 'Leni' yn cael ei chyfarwyddo gan y Parch John Owen.
Digwyddiad pwysig yng nghalendr y fro oedd ymweliad Eisteddfod yr Urdd 芒 chaeau Brynhyfryd diwedd Mai, gan roi cyfle i gannoedd o blant a phobl ifanc yr ardal fod yn rhan o weithgaredd cenedlaethol yn eu bro eu hunain.
Roedd C么r Cymysg Rhuthun yn dathlu pum mlynedd ar hugain ers ei sefydlu n么l yn 1981 a hynny ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Ers hynny, aeth y c么r o nerth i nerth dan gyfarwyddyd eu harweinydd, y diweddar Morfudd Vaughan Evans.
2007
Agorwyd un o dai hynafol tref Rhuthun ar gyfer ymwelwyr ym mis Mehefin, sef Nantclwyd y Dre. Mae'n esiampl o dy trefol, ffr芒m bren hynaf yng Nghymru ac mae pob ystafell wedi ei dodrefnu i gyfleu gwahanol gyfnodau yn ei hanes.
Yng Nghorwen cafwyd seremoni cysegru cerflun newydd a dramatig o Owain Glyndwr, Tywysog Cymru, ar gefn ei farch, ar Dachwedd 9. Dadorchuddiwyd y cerflun sydd wedi ei leoli ar sgw芒r Corwen, o waith Colin Spofforth, gan Syr Roger Jones.
2008
Roedd Y Bedol yn dathlu deg mlynedd ar hugain ers i'r rhifyn cyntaf ymddangos.
Clwyd oedd yn noddi Sioe Amaethyddol Cymru a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf yn Llanelwedd, gyda Trebor Edwards, Pen y Bryniau, Betws GG yn Llywydd.
Bu C么r Meibion Bro Glyndwr yn dathlu pymtheg mlynedd ar hugain ers ei sefydlu gan y diweddar Robin Williams yn 1973. Ers 1990 Ann Atkinson sydd wedi arwain y c么r gyda chymorth Gwerfyl Williams pan mae Ann yn brysur gyda'i gyrfa canu broffesiynol ei hun.
Cynhaliwyd Eisteddfod Talaith a Chadair Powyd yng Nghorwen ar Hydref 17-18 ar 么l seibiant o ugain mlynedd ers ei hymweliad diwethaf 芒'r dref. Mae Eisteddfod Powys ei hun 芒'i gwreiddiau'n mynd n么l i'r drydedd ganrif ar ddeg, pan roedd Corwen a Dyffryn Edeyrnion yn rhan o'r hen Bowys.
Ym mis Tachwedd cynhaliwyd yr Wyl Gerdd Dant, Dyffryn Clwyd yn Y Rhyl.
2009
Dadorchuddiwyd cofeb i'r rasiwr Fformiwla 1, Tom Pryce, neu Maldwyn Pryce fel ei adnabyddwyd gan ei gydnabod yn ardal Rhuthun. Cafodd Tom Pryce ei ladd wrth rasio yn Ne Affrig yn 1977.
Ar Sul y Pasg, Ebrill 12, ail gysegrwyd Capel Moriah, Gwyddelwern, ar 么l gwaith adnewyddu ar 么l i'r capel gael ei ddymchwel oherwydd cyflwr truenus yr adeilad. Addaswyd y festri mewn modd modern ar gyfer addoli yn y Mileniwm newydd.
Agorwyd Canolfan Grefftau Rhuthun yn swyddogol ar ei newydd wedd, gan Weinidog Treftadaeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones ym mis Mawrth. Cyrhaeddodd y Ganolfan restr fer o bedair oriel gelf drwy Brydain, yng nghystadleuaeth Gwobr y Gronfa Gelf yn ystod mis Mai.
Bu aelodau Capel y Pentre, Llanrhaeadr, yn dathlu dau ganmlwyddiant adeiladu'r capel gyda phenwythnos o weithgareddau yn ystod mis Mai.
Cafwyd cyngerdd ym Mhafiliwn Corwen i ddathlu penblwydd C么r Bro Gwerfyl yn 21 oed.