Mae Eirian Lloyd Jones wedi bod yn byw ar ynys Bermuda ers rhai misoedd bellach. Dyma ychydig o'i hanes fel fferyllydd yn ninas Hamilton. Rydw i wedi bod yn byw ar ynys Bermuda ers pedwar mis bellach, ac yn mwynhau fy hun yn fawr iawn. Gweithio mewn fferyllfa yng nghanol dinas Hamilton ydw i, ac mae'n le prysur lawn gyda'r bobl lleol, ac yn brysurach fyth pan mae'r Americanwyr yn glanio oddi ar eu llongau mordaith enfawr.
Mae pob prescripsiwn yn cael ei ysgrifennu gan y meddyg, nid fel gartref lle mae'r rhan fwyaf yn defnyddio cyfrifiadur, felly yn ogystal â cheisio deall eu hysgrifen, roedd hi'n job a hanner dod i arfer hefo'r enwau newydd a'r cyffuriau newydd hefyd. Rydw i'n dal i orfod gwrando yn astud ar eu hacen, a weithie' maen nhw'n methu'n lân â deall fy acen Gymraeg i!
Ond ar y cyfan mae'n brofiad gwerth chweil, ac oherwydd bod yr ynys yn weddol agos i America mae'n dda cael cyfuniad o ddylanwadau Americanaidd a Phrydeinig.
Mae Bermuda yn ynys brydferth iawn hefo llawer o draethau lle mae'r tywod yn binc. Mae yna fwy o gyrsiau golff yma i bob acer sgwâr nag unrhyw le arall yn y byd. Rydw i wedi bod yn chwarae ar bedwar cwrs yn barod, ond yn anffodus mae rhai eraill ohonynt yn rhy ddrud o lawer!
Pan gyrhaeddais Bermuda gorfu i mi eistedd arholiad fferylleg i wneud yn siwr fy mod yn abal i'r gwaith, ac ar ôl gwneud pedair wythnos o 'preregistration' cefais fynd ar fy liwt fy hun. Roedd yn dda cael y cyfnod yma oherwydd roedd yna lawer o bethau gwahanol i'w dysgu, a hefyd y ffaith fod pobl Bermuda yn gorfod talu am eu prescripsiwn, un ai drwy gymeryd allan yswiriant neu dalu am bris llawn y cyffuriau. Gall hyn gostio cannoedd o bunnoedd, yn dibynnu wrth gwrs ar ba gyffuriau maent yn eu cymeryd. Mae'n dda cael y Gwasanaeth Iechyd gartref!
Yr wythnos gyntaf wedi i mi gyrraedd cefais gyfle i chwarae hoci i dîm lleol. Yn anffodus, chwarae ar laswellt maen nhw yma, a'r bêl yn mynd i bobman! Roeddwn i'n teimlo fel taswn i'n chwarae am y tro cyntaf erioed! Ond gydag amser rydw i wedi dod i arfer, ac wedi gwneud ffrindiau da iawn ymysg y tîm hoci. Mae'r mwyafrif yn dod o Brydain, gydag ambell un o Bermuda, Canada, a Seland Newydd. Felly mae hi'n gymdeithas sydd yn cynnwys pobl o lawer o wahanol wledydd, ac yn agoriad llygad go iawn.
Rwy'n gobeithio cael cyfle i drafaelio llawer oddi yma, oherwydd bod America a Chanada mor agos, ac efallai ceisio cyrraedd Patagonia rhyw ben!
Hoffwn ddiolch i bawb yn Rhuthun am eu dymuniadau da, hefyd i'r staff a'r cwsmeriaid yn fferyllfa Rowlands yng Nghorwen. Cofion at aelodau clwb hoci Rhuthun a wnaethant mor dda yn ennill y gynghrair, a phob lwc i aelodau clwb golff Dinbych.
Rwy'n gweithio yn yr un fferyllfa â Hilary Evans-Turner, gynt o Wyddelwern, a mae hi a Mike ei gwr hefyd yn cofio at eu ffrindiau yn yr ardal.
Eirian Lloyd Jones