Taith rhyw 2-3 filltir. Tua awr a hanner (dibynnu ar eich cyflymdra!)
1. Parcio ym maes parcio y Ganolfan (bydd angen talu). Cerdded yn 么l i ffordd Rhuthun.
2. Troi i'r dde gan gymeryd y Llwybr Ceffyl (ar draws i Texaco) a thros y bont. Mae ychydig o dynnu i fyny ar y dechrau. Ymlaen hyd y dewch at...
3. Ffermdy ar y dde - trowch i'r chwith. Ac i fyny y ffordd drol hyd y dowch at...
4. Lwybr yn mynd at giat yn eich gwynebu (cyn i'r ffordd wyro i'r dde) a cherdded i fyny hyd ochr y coed at...
5. Gamfa Aberduna. Trowch i'r chwith (arwyddbost Cadole) ac i lawr llwybr caled rhwng dwy ffens gyfochrog a'r llwybr y daethoch i fyny gan wyro i'r dde hyd y dowch at...
6. Giat bren (mae set yma os oes gennych awydd ysbaid!) gan gerdded ymlaen ar hyd y cae yn ochr y ffens i gyfeiriad...
7. Ysgol Colomendy. Ewch ymlaen yr ochr isaf i'r ysgol drwy giat ac i gyfeiriad giat arall ar y gwastad yn ymyl y ffordd.
8. Trowch i'r chwith ac ymlaen am ychydig ar hyd y ffordd a throi i'r dde cyn cyrraedd ty i l么n rhwng dwy wal garreg i gyfeiriad...
9. Camfa haearn ar bwys y coed. Ewch ymlaen hyd y dowch i...
10. Ffordd Wyddgrug gyda cholofn yn eich wynebu ochr arall i'r ffordd.
Mae dewis yma:
1. Cerdded i lawr y ffordd yn 么l i'r Maes Parcio
2. Croesi y ffordd i'r coed. Mae amryw lwybrau yn y coed ond os gwyrwch i'r chwith ger yr arwyddbost cyntaf fe ddowch i lwybr gyda stepiau llydan a chanllaw ond braidd yn serth (cymerwch ofal!), ddaw a chwi yn 么l i'r Ganolfan a'r Maes Parcio.
|