Er nad wyf yn cofio fy mywyd heb y piano, wedi dechrau gwersi gyda Dad (David Roberts) yn dair mlwydd oed ac wedi perfformio am y tro cyntaf yn bedair, rhan fechan iawn a chwaraeodd y piano tra roeddwn yn tyfu i fyny yn Llandegla. Roedd fy ngwersi yn rheolaidd ac yn ddisgybledig, ond i mi roedd llawer o bethau yn bwysicach na'r piano. Wrth wylio unawdydd piano enwog mewn cyngerdd gyda cherddorfa ym Manceinion pan oeddwn yn saith mlwydd oed penderfynais mal dyna'r yrfa i mi, ac yn ddeuddeg mlwydd oed roeddwn yn dal yn benderfynol ac yn barod i weithio mor galed ag yr oedd angen.
Erbyn 1994, yn un ar bymtheg oed, roeddwn wedi ennill nifer o gystadleuthau lleol, wedi ennill ddwy waith ar yr unawd piano yn Eisteddfod yr Urdd ac wedi ennill dau Ruban Glas Offerynnol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roeddwn yn teithio i Fanceinion bob dydd Sadwrn am ddiwrnod llawn o wersi yn adran iau Coleg Cerdd Frenhinol y Gogledd ac yn brysur yn perfformio recitals yng Nghymru ac ar draws gogledd orllewin Lloegr: Caer, Leeds a Southport er enghraifft.
Ar y pryd roeddwn hefyd yn dechrau dysgu mor ddiddorol yw bywyd fel pianydd: darganfod ar ganol darn nad oedd digon o nodau ar biano, pedal yn disgyn i ffwrdd ar ganol perfformiad a gorfod ceisio trwsio piano gyda WD40 hanner awr cyn dechrau cyngerdd!
Ym 1995 enillais ysgoloriaeth i deithio i America i berfformio Consierto Grieg yn A leiaf gyda cherddorfa yng Ngholorado, ac yma y dysgais am y tro cyntaf mor anodd yw ceisio perfformio gyda jet lag - yn ffodus dim ond yn yr ymarfer cyn y cyngerdd y tro hwn! Ymhen blwyddyn arall fe'm penodwyd yn llysgennad artistig rhyngwladol gan y gymdeithas 'People To People International', ac o ganlyniad cefais y cyfle i deithio i Hong Kong i berfformio mewn cynhadledd ryngwladol, lle bu imi gyfarfod yr Archesgob Tutu.
Erbyn hyn roeddwn yn fyfyriwr llawn amser yng Ngholeg Cerdd Manceinion ac yn cymeryd mantais o'r cyfle i ymarfer drwy'r dydd bob dydd, (rhwng pump ac wyth awr). Roeddwn hefyd yn brysur yn perfformio nifer o gonsiertos gan gynnwys Shostakovitch, Rhapsody in Blue, Rhapsody ar Thema gan Paganini a.y.b., yn dal ati i baratoi ar gyfer nifer o recitals llawn ac yn mwynhau perfformio yn enwedig Seithfed Sonata Prokofiev a Ballades a Sherzos Chopin.
Erbyn imi raddio ar ddiwedd pedair blynedd yn y Coleg sylweddolais nad oeddwn wedi cael y cyfle i ddatblygu'r gwaith academaidd yr roeddwn wedi dechrau yn Ysgolion Pentrecelyn a Brynhyfryd, ac felly penderfynais gario ymlaen yn astudio Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Manceinion.
Wedi sylweddoli mai amhosib fyddai astudio ar gyfer gradd academaidd a dal ati i baratoi ar gyfer cyngherddau penderfynais beidio perfformio am ddwy flynedd er mwyn gorffen fy ngradd yn llwyddiannus, ond wedi graddio gydag MA ym mis Gorffennaf eleni dechreuais ymarfer yn gyson a bu imi berfformio unwaith eto, am y tro cyntaf, yn Ysgol Brynhyfryd, mewn cyngerdd i ddathlu'r piano newydd hyfryd.
Ar hyn o bryd rwyf yn paratoi Consierto gyntaf Tckaikovsky ar gyfer cyngerdd gyda cherddorfa yn Ne Cymru, yn paratoi ar gyfer recitals unwaith eto ac yn mwynhau byw'r dymuniad a gefais yn saith mlwydd oed.
Teleri Si芒n