Stori Stan
Yn 2005 b没m yn dysgu mewn ysgolion yn Tseina mewn ardal amaethyddol dlawd ac anghysbell yn rhanbarth Sichuan, De Orllewin Tseina. Yr wyf yn cofio'r golygfeydd hardd gyda'r cymoedd dyfnion a'r caeau'n llawn o lysiau a reis yn ymledu i fyny i gopa'r mynyddoedd.
Er bod y trigolion yn dlawd yr oeddynt yn arbenning o garedig gyda fi a Rita, gan roi bywd inni er mai prin y medrent fforddio bwyta eu hunain. Yr oeddynt hefyd yn llawn gwerthfawrogiad o'n hymdrechion yn helpu eu plant a oedd yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau o 60 neu 70, pob un yn unig blentyn wrth gwrs gan bod y gyfraith yn gwahardd mwy nag un plentyn i bob teulu.
Fis Ebrill dychwelais i a Rita er mwyn ymweld 芒'n ffrindiau yn y brifysgol y tu allan i Chongcing. Yna aethom i Chengdu i weld y pandas sydd yn byw yn y mynyddoedd yno. Yn fuan wedi inni ddod adre clywsom y newyddion dychrynllyd am y ddaeargryn a ddigwyddodd yn yr union le lle'r oeddem yn byw.
Y mae afon, ffynhonnau a pharciau deniadol tref Mianyang yn fyw yn ein cof ond erbyn hyn dim ond pentwr o rwbel sydd yno. Y mae 20,000 o bobl ar goll. Y mae llawer o'r 5 miliwn a gollodd eu cartrefi yn dylifo i'r ddinas. Dywed ein ffrindiau yno nad yw hi'n bosibl i neb, o fewn cannoedd o filltiroedd gysgy yn eu gwely eu hunain gan bod 7000 o 么l-grynfeydd wedi digwydd hyn yn hyn ac yn golygu bod pobman yn ysgwyd fel platied o jeli.
Digwyddodd dwy ddaeargryn ar yr un ffawtlin; un dan F么r India gan greu tonnau tsunami anferthol yn 2001, a'r llall yn y bryniau eleni pan welwyd mynyddoedd cyfan yn llithro yn bendramwnwgl i lawr i'r dyffrynnoedd poblog islaw.
Y tlodion sydd wedi dioddef fwyaf. Yma yn y Gorllewin yr ydym yn edrych ar y drychineb yn llawn arswyd ond medrwn wneud rhywbeth. Diolch i haelioni pobl Rhuthun a'r Cylch yr ydym wedi casglu dros 拢10, 000 er budd Cronfa'r Tsunami LKC. Bydd hynny'n hwb enfawr tuag at leddfu dioddefaint llawer o bobl ar 么l y Tsunami yn Nagapattinam, Tamil Nadia, yn yr India. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |