Camp dygnwch yw camp yr 'Ironman'. Mae'n cynnwys nofio yn y môr am filltir a hanner, yna taith feic am 112 milltira marathon llawn am 26.2 milltir.
Bu'r tri cyfaill yma'n rhedeg mewn ambell farathon a thriathlon eisoes, ond heb feddwl erioed am hyfforddi a chymryd rhan yn 'Ironman France' - hynny ydy tan rwan.
Bydd y tri yn codi pres ar gyfer eu helusennau unigol eu hunain, sy'n gwneud yr hyfforddi caled yn werth chweil.
Un o Ruthun yw Richard Wykes. Dewisodd godi pres at Ymchwil Cancr, sy'n gyflwr mae Richard yn ei weld yn aml yn ei waith fel Meddyg Teulu.
Dewisodd Royden Healey o Ruthun godi pres at yr elusen ARC - Arthritis Research Campaign. Bu Haf, gwraig Royden, yn dioddef o Rheumatoid Arthritis ers tua 28 mlynedd. Tair ar ddeg oedd hi pan ddechreuodd yr anhwylder. Dioddefodd Haf lawdriniaeth i greu cymalau newydd yn ei phengliniau a'i phenelinoedd yn ogystal â chael triniaeth i ymdoddi'r esgyrn yn ei chefn. Yn ddiweddar deallodd bod ganddi Osteoporosis.
Yr elusen a ddewisodd Martin McSpadden o Riwabon yw CLIC Sargent, un o brif elusennau cancr mewn plant. Nyrs plant yw Martin a welodd â'i lygaid ei hunan y gwaith rhagorol mae staff CLIC Sargent yn ei wneud bob dydd.
|