Yn ystod y gwanwyn gwelwyd cyfres newydd ar S4C dan y teitl Emyn Roc a R么l yn dilyn hynt a helynt aelodau grwp pop dychmygol, "Y Disgyblion". Lleolwyd y gyfres yn yr wythdegau yn ystod oes aur grwpiau pop Cymraeg. Un o aelodau'r band yw Dyfrig Dodds, sef Iwan Charles un o feibion David a Nerys Evans, Pentre Motors, Llanrhaeadr.
Cafodd Y Bedol gyfle i sgwrsio ar y ff么n gydag Iwan ac yntau ar hyn o bryd yn Y Fenni yn cymryd rhan mewn sioe ar gyfer ysgolion cynradd gyda Theatr Gwent. Mae Iwan yn actio'r cymeriad "Aderyn heb adenydd" yn y sioe, ac mae rhywun yn tybio ei fod yn mwynhau y bwrlwm a'r sialens o fod o flaen cynulleidfa fyw.
Diddorol felly yw deall nad oedd yn fwriad gan Iwan i ddilyn gyrfa fel actor yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Glan Clwyd.
"Doeddwn i ddim yn ei astudio fel pwnc, ond roeddwn i'n cymryd rhan mewn ambell i sioe ac ati".
Wedi dyddiau ysgol, aeth Iwan i'r Normal i ddilyn cwrs B.Add gyda'r bwriad wedyn o fynd i ddysgu oed cynradd. Dewisodd Ddrama fel pwnc i'w astudio fel rhan o'r cwrs, a chael y cyfle i gymryd rhan mewn dram芒u, nosweithiau llawen yn ogystal 芒 chystadlu gydag Aelwyd yr Urdd. "Yn y coleg ddaru mi gael blas ar berfformio ac actio."
Ar ddiwedd ei gwrs gradd yn 1997 ac yntau yn dechrau ymgeisio am swyddi dysgu, cafodd Iwan alwad ff么n a fu'n gyfrwng iddo newid cyfeiriad.
"Cefais alwad ff么n gan Gwmni'r Fr芒n Wen yn cynnig swydd imi. Roeddynt wedi fy ngweld yn actio mewn cynyrchiadau tra yn y coleg, ac mae'r gweddill fel maen nhw'n dweud yn hanes!' Mae Cwmni'r Fr芒n Wen yn arbenigo yn y maes theatr mewn addysg a chefais y cyfle i actio mewn cynyrchiadau'r cwmni am tua tair blynedd".
Er mai ar ddamwain y dechreuodd gyrfa Iwan, mae wedi llwyddo i gael gwaith yn eitha' rheolaidd. Ar 么l cyfnod Br芒n Wen, bu'n gweithio ar gynyrchiadau Theatr Arad Goch, yn cynnwys Dilemma!, Tafliad Carreg a Rala Rwdins, (gan chwarae rhan y Dewin Dwl!).
Os nad oes gwaith actio ar gael mae Iwan yn medru syrthio n么l ar ei waith fel athro, gan wneud gwaith llanw o dro i dro. Wedi torri ei gwys ar y llwyfan, cafodd Iwan y cyfle i actio yn y gyfres Emyn Roc a R么l. Cyfres sydd eisioes wedi ennyn adolygiadau ffafriol. Mae Iwan yn disgrifio ei gymeriad (Dyfrig Dodds) "fel dipyn o punk rocker o Rhyl sy'n llawn direidi ond yn hogyn hoffus yn y b么n, gyda saith hoff ddywediad wrth ffans茂o ei gyfle gyda'r merched 'y Thrill o'r Rhyl'!
Bu raid i Iwan gael cwrs sydyn am chwe wythnos ar sut i ganu'r git芒r ar gyfer ei r么l yn y gyfres. "Roedd hi'n anodd dysgu canu'r git芒r ond mater o raid oedd hi!" Nid yw bod mewn band yn beth diarth i Iwan. "Tra yn yr ysgol fi oedd y canwr yn y y band 'Pot Jam" ac wedyn yn y coleg roeddwn yn canu yn y grwp Pyls. Fi oedd yn sgwennu'r geiriau ac aelodau eraill y band yn cyfansoddi'r d么n. Hoffai Iwan ail afael yn ei ddiddordeb mewn canu mewn band yn y dyfodol.
A beth sydd ar y gweill i Iwan Charles yn y misoedd nesaf? "Bydd taith cynhyrchiad Theatr Gwent yn diweddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yna byddwn yn dechrau ymarfer ar gyfer y gyfres o Emyn Roc a R么l, (bydd yn cael ei darlledu o bosib yn ystod Gwanwyn 2005). Wedi hynny dwi'n gobeithio ail afael ar waith llwyfan gyda Theatr Arad Goch".
Pan mae cyfle'n dod i ymlacio, bydd Iwan wrth ei fodd yn chwarae'r drymiau, gwylio rygbi, cerdded mynyddoedd a mwynhau cymdeithasu gyda ffrindiau.
Pob lwc iti Iwan yn dy yrfa a gobeithiwn dy weld mewn cynhyrchiad yma yn y gogledd yn y dyfodol agos. - Gol.