Wyddwn i ddim byd am y gystadleuaeth, hyd nes i dair swyddog ymweld 芒 mi yn y gegin yn Uned Cancr Ysbyty Glan Clwyd. Y peth cynta' ddaeth i'm meddwl oedd be dwi wedi wneud r诺an? "Stedda i lawr" ,medde un ohonyn nhw, a dyna wnes i, tra'n gwrando arnyn nhw'n datgelu mod i wedi cael fy newis yn un o'r pump ola' drwy Gymru ar gyfer yr NHS Heroes Award, gan y Gwasanaeth Iechyd.
Wyddwn i ddim, i mi gael fy enwebu. Wel s么n am sioc - buase'n llawer callach petaen nhw wedi gofyn i mi orwedd i lawr!
Teimlo'n annheilwng
Dwi 'rioed wedi teimlo mor annheilwng. Pwy oeddwn i? Doeddwn i ddim eisiau gwneud dim 芒'r peth. Cogyddes oeddwn i, ac am "hero", wel nefar!!
Ar 么l sgwrsio a meddwl, sylweddolais fod rhaid i mi gymryd rhan, er mwyn i mi gael cynrychioli t卯m da o weithwyr sydd yn cydweithio yn yr Uned Gancr. Y broblem nesa' oedd y ffilmio, o 7.30 y bore tan amser cinio - ac yn Saesneg!! Druan o'r dyn camera dwn i ddim faint o cuts a gafwyd ond dysgais yn fuan nad oedd cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg yn swnio'n gall bob tro!!
Colli cwsg a phwysau
Doeddwn i ddim wedi meddwl fy mod yn eneth nerfus iawn, nes daeth bore Llun y rhaglen. Roeddwn i wedi colli cwsg (a finne yn cysgu fel twrch bob nos heb drafferth!), colli 8 pwys ac yn methu canolbwyntio.
Wel i ffwrdd 芒 fi ar y bws o Ysbyty Glan Clwyd amser cinio gyda 18 o staff a dad a mam. Eirwyn Dylan ac Ian yn aros adre i ffonio.
Fe gawsom ni hwyl ar y bws, a chyrraedd y gwesty am bump o'r gloch - cawod sydyn a newid, ac yna ymlaen i'r stiwdio. Cyfarfod gweddill y cystadleuwyr ac yna mynd i'r ystafell goluro. Gofynnodd yr hogan goluro i mi beidio symud - wel dim fi oedd yn symud ond y nerfau trwy'r corff!!
Cyfarfod dynes gyfarwydd
Tra yno, daeth dynes gyfarwydd yr olwg i ddweud helo, bu bron i mi ofyn iddi a oedd hi'n aros am y coluro, ond diolch byth cefais fy nghyflwyno iddi mewn pryd - neb llai na Jane Hutt.
Dim ond chwarter awr i fynd a minnau heb gael practis run felly es i chwilio am Rhodri Williams, cyflwynydd y rhaglen deledu, a cherdded i mewn i'w ystafell ac yntau heb ei drowsus - ond mi roedd o'n gwisgo boxers! Dwn i ddim os mai fo neu fi gafodd y braw mwya, fy ymateb oedd "ydio'n iawn i mi ddod i mewn?!!"
Dwi'm yn cofio fawr ddim am y rhaglen, dim ond fy mod yn clywed curiad fy nghalon yn mynd fel drwm - hyd nes bod fy rhan i drosodd!! Do, fe fwynheais y profiad - mae o fel breuddwyd i mi, a tydw i ddim yn si诺r os ydw i wedi deffro'n iawn.
Diolch i bawb am eu cefnogaeth mewn unrhyw fodd.
Cafodd 55 o bobol eu henwebu yn y gystadleuaeth a dewiswyd Iona yn un o bump trwy Gymru i ymddangos ar y teledu. Mae'r Bedol yn llongyfarch Iona ac yn diolch am ei charedigrwydd i lawer o bobol.