Fel rhan o fy nghwrs Lefel A Eidaleg cefais y cynnig i fynd i'r Eidal ar daith gyfnewid gyda'r ysgol gan aros gyda theulu o Eidalwyr am bythefnos ym mis Chwefror. Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i am fynd achos roedd gen i docyn i gêm rygbi Cymru yn erbyn yr Alban yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad oedd ymlaen yn ystod y daith, ond mi wnes i benderfynu fynd i'r Eidal ar y funud olaf!
Cychwynasom o Frynhyfryd ar fws am 2.30 y bore ar Chwefror 6, er mwyn dal yr awyren o Gatwick i faes awyr Pisa am 11 o'r gloch. Cyraeddasom yr Eidal tua dau yn y prynhawn y diwrnod hwwnw, heb gysgu dim! Roedd y teuluoedd yn ein casglu o'r maes awyr ac aethom yn syth i'w tai. Cefais groeso cynnes iawn gan y teulu. Roeddent yn siarad Eidaleg gyda fi ond roedd hi'n hawdd eu deall gan eu bod yn ei gadw o'n syml.
Trefn arferol y diwrnod oedd bod disgyblion Brynhyfryd a'u hathrawes yn dal trên i ymweld â thref yn yr Eidal, tra bod yr Eidalwyr yn yr ysgol. Fe aethom i Pisa, Lucca, Siena, Rhufain (aros yno mewn gwesty am noson), Le Cinque Terre a Fflorens. Gwelsom lawer o adeiladau byd-enwog fel Twr Pisa, y Colosiwn, Y Ddinas Fatican a'r Ponte Vecchio yn Fflorens.
Pan roeddem yn Rhufain, fe wnaeth fwrw eira ar yr ail ddiwrnod, ddim am hir ond mor drwm a dwi erioed wedi ei weld, ac roeddem yn y Fatican efo sgwâr St Pedr yn wyn i gyd. Dim ond unwaith bob 24 mlynedd mae hi'n bwrw eira yn Rhufain felly roeddem yn ffodus iawn i weld hynny!
Ar dri diwrnod aethom i ysgol yr Eidalwyr gan fynychu rhai o'u gwersi mewn grwpiau, lle roeddem yn ateb cwestiynau o flaen dosbarthiadau. Ar un diwrnod roedd rhaid i mi fynd ar brofiad gwaith i orsaf radio, a ffeindiais fy hun yn siarad Eidaleg yn fyw ar yr awyr!
Roedd aros gyda'r teulu yn brofiad da. Roedd eu ffordd ychydig yn wahanol i'r ffordd o fyw yng Nghymru. Roeddent yn bwyta'n llai aml na ni, ond pan roeddent yn bwyta roeddent yn bwyta andros o lot. Cefais bryd tri chwrs ganddynt bob nos. Hefyd, roeddent yn rhoi cinio wedi'i bacio i mi bob dydd, ac roedd yna lawer o fwyd yn y pecyn, roedd rhai pobl yn cael 8 baguette ynddo!
Un peth hollol wahanol am y ty roeddwn i'n aros i gymharu â thai Cymru, oedd bod yna gloch yn y ty bach fyny grisiau. Mi wnes ddarganfod hynny fy hun pan o'n i'n ei ganu o am hanner nos ac yn deffro pawb!
Ro'n i'n aros yn nhref bach Buti oedd tua maint Rhuthun. Roedd yr ysgol mewn tref fwy o'r enw Cascina (Toscana). Roedd yna gastell yn y dref ro'n i'n aros ynddi. Roedd yna sgwâr yng nghanol y dref, fel sgwâr Rhuthun ond heb gloc yn y canol a doedd o ddim ar ben bryn, ac roedd yn llawn dop o bobl bob nos.
Cefais brofiad da iawn yn yr Eidal. Dysgais fwy o Eidaleg a chefais amser da. Bydd yr Eidalwyr yn dod i Ruthun ym mis Ebrill i ymarfer eu Saesneg ond dwi'n mynd y neud yn siwr fod yr Eidalwr sy'n aros gyda mi yn dysgu tipyn bach o Gymraeg hefyd!