Braint, bellach, fel disgybl o hirbell, ydyw cael cyfarch a llongyfarch holl weithwyr y Bedol, un o wyrthiau'r Gymru gyfoes ar gyrraedd y deg ar hugain. Nid oedd twf y papurau bro yn saithdegau'r ganrif ddiwethaf yn ddim llai na chwyldro.
Meddyliwch am yr holl weithwyr yn cydweithio'n wirfoddol am yr holl oriau o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn, led-led Cymru. Dyna greu ymrwymiad wrth gornelyn o Gymru a symbylu rhwymau cymdeithasol newydd. Wrth garu'r fro y daeth sawl Cymro a Chymraes i garu Cymru, ac yn fwy na hynny i weithio drosti. Yn sicr, y mae'r Bedol fel pob un o'r papurau bro eraill yn enghraifft o weithredu'n lleol a meddwl fel Cymro a Chymraes.
Ar ddechrau blwyddyn fel hyn, rydym yn edrych yn ôl ar y flwyddyn a aeth heibio gyda chymysgedd o ddiolch a gofid am a fu. Yn hanes y Bedol, diolch am orffennol ffrwythlon a llwyddiannus, er colli gweithwyr a ffrindiau da dros y blynyddoedd.
Ond beth am y dyfodol? Wrth edrych ar y sefyllfa bresennol, mae'r dyfodol yn fwy nag addawol, wrth feddwl fod y papurau cenedlaethol a Phrydeinig wedi colli miloedd o ddarllenwyr dros y blynyddoedd. Bu dyfodiad y teledu yn ergyd i ddarllen unrhyw beth, er bod cyfres deledu lwyddiannus yn seiliedig ar nofel dda yn peri fod cryn werthiant i'r nofel honno.
Bellach, daeth y cyfrifiadur amhersonol ac anghymdeithasol i deyrnasu ar ein haelwydydd. Erbyn hyn, gallwn ddarllen yr holl bapurau newydd ar y we.
Mae dyfodiad hwn wedi bod yn ergyd arall i'r papurau dyddiol ac i ddarllen yn gyffredinol. Ar ben hynny, bu llawer o son am gyhoeddi'r "Byd", y papur dyddiol Cymraeg arfaethedig, y gohiriwyd ei gyhoeddi ar Fawrth y Cyntaf 2008 oherwydd ymchwiliad i'r sefyllfa newyddiadurol yng Nghymru.
Menter ddewr iawn. Y ddadl yw fod y papurau bro wedi creu darllenwyr posibl i fenter o'r fath. Gobeithio yn wir. Nid yw'r Bedol na'r un papur bro arall yn perthyn i'r ffrwd newyddiadurol caled ac oer sy'n rhoi i ni straeon anghynnes ac yn cyflwyno bywyd yn amrwd a chignoeth.
Arall yw bwriad y Bedol a'i gymheiriaid, sef dathlu'r newyddion da sydd yn ein broydd gyda chynhesrwydd a balchder. Nid oes fwriad i fod yn feirniadol ac yn gecrus.
Fel y dywed Gwilym Owen, a'i dafod yn ei foch, cawn y newyddion bro, yn llawn o ymadroddion ansoddeiriol megis, pregeth rymus, drama dda, cyngerdd ardderchog, oedfa eneinied, Noson Lawen hwyliog, noson wych o Frethyn Cartref, darlith adeiladol, ac wrth gwrs yr ebychiad i goroni bob ebychiad: "Biti na fase'r camera teledu yno. Mi fase'n well o lawer na'r sothach sydd arni!"
Hir y parhao'r papur bro i foli'r gymdeithas fel y gwnaeth yr hen feirdd yn yr Oesoedd Canol. Gobeithiwn y bydd hynny yn sail digonol ar gyfer croesawu'r "Byd" yn y Gymru sydd ohoni. Pan ddaw!
J.O.