Go brin bod pobl ifanc heddiw yn gyfarwydd 芒'r teclyn anfon negeseuon hynny, ond drwy ddefnydd byd eang o'r We, mae'r neges yn mynd i bedwar ban byd yn flynyddol, mewn 14 o ieithoedd. N么l yn 1922 cafwyd un ymateb i'r neges gan warchodwr Twr Eiffel Paris, ac oes mae rhai yn ymateb heddiw i'r neges ar y We gyda De Affrica, Mecsico ac Efrog Newydd yn eu plith. Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni luniodd y neges gyntaf ac ynddo roedd yn gofyn i Dduw fendithio gwaith da pobl dros y byd a dad a rhyfela i ben. Roedd Y Parch Gwilym Davies yn Heddychwr mawr ac yn flaenllaw yn sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO. Credai mewn dod a phlant y cenhedloedd ynghyd 芒 chwalu anwybodaeth a rhagfarnau oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Ers 1922 felly, mae'r arfer hwn o lunio neges heddwch wedi bod ac yn dal i fod yn ysgogiad ac yn ysbrydoliaeth i weithgarwch dyngarol a rhyngwladol yr Urdd. Eleni mae'r neges yn cyd-fynd a phrosiect arbennig iawn mewn cydweithrediad a Shelter Cymru o'r enw AGOR DRYSAU. Nod Agor Drysau yw i godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc am effeithiau digartrefedd. Mae'r neges eleni a luniwyd gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci yn tynnu sylw at eu pryderon ynglyn 芒'r problemau sy'n wynebu ein cyd-ddyn megis, trais, rhagfarn, anghyfiawnder, rhyfel a thlodi. Pob un o'r rhain gydag effeithiau niweidiol o fod yn ddigartref. Yn sicr byddai Y Parch Gwilym Davies yn hynod falch eleni o weld 70 o ddysgwyr y Gymraeg ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn cyflwyno Neges Heddwch 2005, ac rydym yn llongyfarch disgyblion Ysgol Treorci am lunio a chyflwyno neges bwysig iawn i ni heddiw a mwynhau nifer o brofiadau Cymraeg wrth wneud hynny. Am ragor o wybodaeth cysylltwch 芒 Linos Roberts, Gwersyll Glan-lIyn 01678 541008
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |