大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Logo Eisteddfod Powys 2008 Eisteddfod Powys 2008
Mawrth 2008
Cystadleuaeth y Goron
Braint fawr i Gorwen a'r Cylch eleni fydd cael estyn gwahoddiad i Eisteddfod Talaith a Chadair Powys unwaith yn rhagor ac a fydd yn cael ei chynnal yng Nghorwen ar Hydref 17 a 18, 2008.
Mae hyn yn ein hatgoffa, hyd yn oed yn yr unfed ganrif ar hugain, fod Edeyrnion, ar un adeg, wedi bod yn rhan o'r hen Dywysogaeth Powys a bu i Gymrodoriaeth Eisteddfod Powys, yn ddoeth iawn, benderfynu cadw dalgylch yr eisteddfod o fewn ffiniau'r hen dywysogaeth.

Heb os nag onibai, fe fydd yna brysurdeb mawr yng Nghorwen dros y penwythnos arbennig yma gyda chystadlu brwd ymhob oedran ac adran ac yn ogystal fe gynhelir Ymryson y Beirdd, Y Babell L锚n ac Arddangosfa Celf a Chrefft.

Rhan bwysig o unrhyw eisteddfod yw ei seremon茂au a thydy Eisteddfod Powys ddim yn wahanol. Ymysg rhai o'r prif seremon茂au fydd Seremoni y Coroni, Seremoni y Cadeirio a Seremoni Cyflwyno'r Tlws leuenctid, a chyfrifoldeb yr Is-Bwyllgor Ll锚n a Llefaru fydd trefnu' r rhain.

Ar 么l gorffen paratoi at y Rhestr Testunau, ein tasg nesaf, fel Is-Bwyllgor, oedd chwilio am Goron, Cadair a Thlws Ieuenctid a doedd hi ddim yn dasg hawdd. Wrth drafod pwy a gaem i lunio'r Goron, daeth Edwin a Eirian Jones, T欧 Mawr, Carrog i'r adwy. Nhw eu dau oedd ysgrifenyddion yr Eisteddfod Powys ddiwethaf yng Nghorwen sef yn 1988 a chawsom ar ddeall gan Edwin nad oedd neb wedi bod yn deilwng o'r Goron yn yr eisteddfod honno. Yn ffodus iawn, roedd y ddau wedi cadw'r Goron yn ofalus, heb ddychmygu, mwy na ninnau, y byddai 'na ugain mlynedd yn mynd heibio cyn y byddai'r Eisteddfod yn dychwelyd i Gorwen.

Pan gawsom gyfle i weld y Goron, roeddem wedi rhyfeddu at ei cheinder a'i gwneuthuriad crefftus. Teimlem yn gryf y dylai'r Goron hon gael ei chynnig eto yn Eisteddfod Powys 2008 ac fe gytunodd y Pwyllgor Gwaith. Yn naturiol, bydd angen newid y dyddiad a thwtio ychydig arni.

O ran diddordeb, fe wnaethpwyd y Goron ar gyfer Eisteddfod Powys 1988 gan Kathleen Mackinson o Ddinbych. Ganed Kathleen Mackinson yn Efrog Newydd ond fe symudodd i fyw i Gymru gyda'i g诺r a dau o blant yn 1956. Er nad yw hi yn gallu siarad Cymraeg, eto mae ei phlant wedi dysgu'r iaith ac oherwydd natur ei gwaith, gallodd hithau hefyd feithrin cysylltiad agos a'r diwylliant Cymraeg. Gwnaeth ei choron gyntaf ar gyfer Eisteddfod y Dathlu a gynhaliwyd yng Nghaerwys yn 1968. Ers hynny, mae wedi gwneud naw coron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a rhwng 1976 a 1996 lluniodd 99 o dlysau a gyfer enillwyr yr Urdd. Mae hefyd wedi cynllunio tlysau ar gyfer y 大象传媒, HTV, Y Cymrodorion a nifer o gyrff eraill.

Hi hefyd a luniodd coron barhaol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac a ddefnyddir bob blwyddyn yn Y seremoni'r Coroni. Dyma'r goron a wisgwyd gan y llenor buddugol yn Seremoni'r Coroni yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych 2006 a gynhaliwyd yn Rhuthun. Mae hon yn goron hardd dros hen gyda chennin Pedr yn ei hamgylchynu a rheini yn gallu symud mymryn er mwyn dal y golau.

Testun cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Powys, Corwen yn 1988 oedd 'Astudiaeth o Ffraethineb a Hiwmor yng Ngwaith Ceiriog', - testun go anodd a chymhleth a phur anarferol fuaswn i feddwl. Ni wn yn union faint wnaeth gystadlu ond doedd neb yn deilwng o'r Goron yn 么l y beirniad Hywel Teifi Edwards. Gyda'r Goron fe gynigwyd gwobr ariannol o 拢25 a oedd yn rhoddedig gan y diweddar, ysywaeth, Ddr. D. Tecwyn a Gwyneth Lloyd, Maerdy.

Eleni, mae testun cystadleuaeth y Goron ychydig yn fwy penagored sef 'Casgliad mewn amrywiol ddulliau o waith creadigol ar y testun Cymylau.' Byddwn hefyd yn cynnig gwobr ariannol o 拢100 ynghyd a'r Goron. Y beirniad fydd Menna Baines, Bangor. Gobeithiwn yn fawr y bydd nifer dda yn cystadlu ac y cawn weld y tro hwn lenor teilwng yn gwisgo'r goron hardd ar lwyfan Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, Corwen a'r Cylch 2008.

Elwyn A. Jones Cadeirydd Pwyllgor Ll锚n a Llefaru


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy