大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Dosbarth Babanod 1982 Pen-Blwydd Pen Barras yn 25
Tachwedd 2007
Mae Ysgol Pen Barras yn 25 oed eleni. Dyma rai atgofion gan blant 1982 sydd 芒 phlant eu hunain yn yr ysgol r诺an.
Hefyd gair gan y ddau bennaeth, Alun Edwards a Bryn Williams ac atgofion y dirprwy cyntaf, Bronwen Wilson Jones, sydd ag 诺yr yn yr ysgol ar hyn o bryd:

"Mae'r ysgol yn bum mlynedd ar hugain oed eleni. Ers y dyddiau cyntaf yn 1982 mae'r ysgol wedi tyfu wrth i addysg cyfrwng Cymraeg fynd o nerth i nerth. Bellach mae 250 o blant ar lyfrau'r ysgol ac nid ar chwarae bach y mae diogelu safonau addysgol ac ansawdd y profiadau cymdeithasol a ddarperir i'r plant ym Mhen Barras. Rydym yn ymfalch茂o yn llwyddiant y plant, ym mhroffesiynoldeb y staff ac yn niddordeb byw'r rhieni yn holl gylch gwaith yr ysgol.

Mae dau ddigwyddiad wedi eu trefnu i ddathlu cyrraedd y garreg filltir hon. Ar ddydd Llun, Tachwedd 12, parti pen-blwydd yn yr ysgol dan arweiniad Martin Geraint gyda chacen pen-blwydd enfawr wedi cael ei pharatoi gan Gymdeithas y Rhieni ac Athrawon.

Digwyddiad mwyaf y flwyddyn fydd Cyngerdd Dathlu yn Theatr John Ambrose ar nos lau, Chwefror 28 am 6.30 o'r gloch. Bydd gwahoddiad i gyn-aelodau o staff yr ysgol a rhieni i ddod am baned a sgwrs cyn mwynhau gwledd o berfformio gyda ch么r, part茂on, c芒n actol a grwpiau offerynnol yn cymryd rhan.

"Mae ein byd i gyd a'i g芒n
Yn llafar ar ein llwyfan"

(Robin Llwyd ap Owain a disgyblion Blwyddyn 6, 2004)
Edrychwn ymlaen!"
Bryn Williams

"Medi 4ydd 1982 - diwrnod hanesyddol - diwrnod y daeth Ysgol Pen Barras i fodolaeth. Wedi gwaith caled o ymgyrchu gan bobl megis Gwynn a Gwyneth Llywelyn a chyda llawer o help y tu 么l i'r llenni gan Alwyn Evans, Swyddog Addysg ar y pryd, fe agorwyd drysau'r ysgol am y tro cyntaf i ryw 48 o blant llawn amser a tua 6 o blant Meithrin. Adeiladwyd yr ysgol ar gyfer 96 (rhif od!!) Dyma'r nifer mwyaf a fuasai'n mynychu'r ysgol yn 么l y gwybodusion yn Neuadd Y Sir. 'How wrong can you get', chwedl y Sais.

Gan fod yr ysgol wedi ei hadeiladu mewn ffasiwn ffordd na ellid rhoi estyniad, buan iawn y gwelsom ystafelloedd symudol ar y safle. Erbyn canol y naw degau 'roedd yna fwy o blant mewn cabanau nag yn y brif adeilad.

Dewis rhieni ac ambell i nain a thaid oedd yr enw Pen Barras. 'Roedd yr ardal yna o'r dre yn cael ei adnabod fel Pen Barras gan lawer o hen drigolion Rhuthun cyn bodolaeth yr ysgol, felly dyma ofyn i swyddogion yr archifdy am esboniad.

Blynyddoedd lawer yn 么l, dwy ffordd yn unig oedd i mewn i dref Rhuthun, un dros y bont yr ochr draw i'r carchar a'r llall i lawr Ffordd Llanrhydd a thrwy 'gi芒t' yn ymyl beth sydd yn cael ei alw r诺an yn Llanrhydd Manor. Bars oedd yr enw Saesneg am gi芒t o'r math ac felly daeth yr enwau Pen y Bont a Pen y Bars i fodolaeth. Dros amser fe ddaeth Pen y Bars yn Pen Barras.

Yr athrawon ar y diwrnod cyntaf hwnnw oedd Mrs Bronwen Wilson Jones, Mrs Eirwen Carrington a Carys Davies ifanc iawn (Parry bellach) yn Weinyddes Feithrin. Symudais i o Ysgol Pentrecelyn i geisio rhoi rhyw stamp ar yr ysgol newydd. 'Roedd hi'n flwyddyn gyfan cyn agoriad swyddogol Pen Barras a'r rheswm am hynny oedd bod babanod Ysgol Stryd y Rhos yn rhannu hanner ein ystafelloedd tra'n disgwyl i'w hysgol hwy gael ei chwblhau. Yr un peth dwi'n ei gofio am seremoni yr agoriad swyddogol yw i un o'r gwahoddedigion benderfynu yn sydyn fod yn rhaid canu Hen Wlad Fy Nhadau cyn gorffen. Bronwen yn mynd yn frysiog at y piano ac yn ceisio dod o hyd i'r cyweirnod iawn a llais mawr cynghorwraig yn gweiddi o'r llwyfan - try Bb - j么c am fisoedd wedyn oedd gweiddi try Bb pob tro yr ai Bronwen at y piano.

Atgofion melys iawn sydd gen i am yr ysgol, ac ychydig iawn iawn o bethau y buasai yn well gen i eu anghofio. Rhai o'r uchafbwyntiau oedd Sioeau Nadolig y blynyddoedd cyntaf dan gyfarwyddyd Diana Turner, 'Steddfod Lol gyntaf y Gym. Rhieni / Athrawon (Dr Barrie a Bob Ellis mewn tu-tus ac Ifor Thomas yn cystadlu ar yr unawd dros 80 oed ymhlith llawer o bethau doniol eraill). Mae'r cerddi i ennill y Gadair yn dal gen i!! Geraint Owain oedd yn fuddugol gyda'r llaw. Dod yn gyntaf yn Eisteddfod Yr Urdd Dolgellau gyda'r c么r yn cael ei arwain gan y diweddar annwyl Eirian Williams. Ennill gyda'r t卯m Gymnasteg a genethod Bl. 6 yn dod yn bencampwyr Cymru yn y ras gyfnewid nofio i lawr yn Abertawe, a thair o'n disgyblion yn cyrraedd Lefel 6 yn y Gymraeg yn y TASau 11 oed. (7 oedd drwy Gymru gyfan) ond y pethau pwysicaf oedd cyfeillgarwch y rhieni, cyfeillgarwch fy nghyd-athrawon ac yn bennaf oll cyfeillgarwch y plant sydd yn dal i barhau hyd heddiw. Pleser o'r mwyaf yw cael eu gweld, pob un wan jac ohonynt, yn tyfu i fod yn bobl ifanc hyderus, cyfrifol a llwyddiannus.

Hedfanodd fy mhedair mlynedd a'r bymtheg ym Mhen Barras ac ar ddiwedd un cyfnod o 25 mlynedd ac ar gychwyn un arall dwi'n dymuno Pen Blwydd hapus iawn i'r Ysgol ac yn dymuno pob llwyddiant i'r dyfodol."
Alun Edwards

"Yn 1968, a'm plentyn ieuengaf yn bedair oed, cefais alwad fel athrawes i gyflenwi swydd rhan amser yn Ysgol y Babanod, Stryd y Rhos - yn y Dosbarth Cymraeg.

Gwyneth Owen o Dderwen oedd y brifathrawes. 'Roedd yn brofiad newydd cael dysgu mewn dosbarth lle 'roedd y Gymraeg yn iaith swyddogol, a phob plentyn yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, boed ei famiaith yn Saesneg neu Gymraeg.

Mae yn wir dweud fod llawer o blant di-Gymraeg wedi dysgu'r iaith mewn dosbarthiadau Cymraeg y dre, fel yn ysgolion y wlad! Ond, nid da lle gellir gwell.

Yn y saithdegau 'roedd ymgyrch ar droed i gael ysgol Gymraeg (ddwy ieithog) fel yn Ninbych. Yr oedd ysgol feithrin wirfoddol yn y dre dan ofal Gwyneth Llewelyn, a byddai hon yn bwydo ambell i ysgol, ond yn bennaf dosbarth Cymraeg babanod Stryd - y - Rhos.

'Roedd peth gwrthwynebiad i'r ymgyrch - rhai yn ofni di-Gymreigio ysgolion y wlad - ond ni ddigwyddodd hyn yn '82. 'Roedd y swyddfa addysg yn gofalu na ddigwyddai. Cafodd un plentyn o Bwllglas fynediad i'r ysgol newydd wedi llawer o ymgynghori a llythyru 芒'r swyddfa! Mae rheolau derbyn plant yn gwbl wahanol heddiw.

Penodwyd Alun Edwards o Ysgol Pentrecelyn yn bennaeth ar yr ysgol, a cefais i fy nhrawsblannu gyda dosbarth y babanod o ysgol Stryd-y-Rhos. Hefyd daeth Eurwen Carrington o adran Gymraeg ysgol gynradd Stryd-y-Rhos. 'Roedd Carys Davies (Parry nawr) yn weinyddes feithrin, a bedyddiwyd yr ysgol yn 'Pen Barras', gyda tua pum deg chwech o blant. Bu'r pedwar ohonom yn gweithio'n hapus yn ein hadeilad newydd sbon, a cawsom yr holl offer yn newydd hefyd!

Yn yr wythdegau, bu codi llawer o dai yn Rhuthun a gwelsom rifau'r ysgol yn tyfu o dymor i dymor, a chwarter canrif yn ddiweddarach mae'r cynnydd yn amlwg. Cafodd Eurwen a minnau ymddeol yn 1988 ac aeth Alun a staff newydd ymlaen gyda'r gwaith hyd at 2001.

Rwyf wedi cadw cysylltiad 芒'r ysgol gan fod plant un o'm meibion yn mynychu'r ysgol. Wrth ddanton Gwenno a Steffan weithiau, byddwn yn gweld ambell i gyn-ddisgybl yn dod a'u plant i'r ysgol. Cofiaf Llinos Gibson a Beth Wilson yn rai o rieni cynnar Pen Barras, a'r ddwy yn athrawon yno erbyn hyn.

Mae'r dull o ddysgu yn siwr o fod wedi newid mewn pum-mlynedd ar hugain.

Roedd defnydd o gyfrifiaduron bryd hynny yn elfennol iawn yn y babanod, ond mae datblygiadau ym myd technoleg yn dylanwadu ac ynghlwm wrth addysg heddiw. Hefyd mae'n si诺r fod y cwricwlwm yn llawer mwy eang erbyn hyn.

Byddaf bob amser yn falch o weld plant Pen Barras yn llwyddo mewn unrhyw fodd, boed mewn chwaraeon, cwis llyfrau neu Eisteddfod yr Urdd.

Pob bendith a dymuniadau gorau i Ysgol Pen Barras yn y dyfodol."
Bronwen Wilson Jones

"Mae Pen Barras yn ysgol hapus a braf. Dwi' n mwynhau cael gwersi clarinet a chwarae rownderi. Dwi hefyd yn mwynhau chwarae hefo fy ffrindiau amser chwarae. Fy hoff bynciau yw gwyddoniaeth a chyfrifiaduron.

Rydym wedi bod yn ffodus iawn o gael artistiaid gwahanol i mewn i'r ysgol i weithio gyda ni. Pobol fel Neil Dalrymple, Catrin Williams a Jenny Lee Hill.

Mae Gwyneth Glyn, Bardd Plant Cymru hefyd wedi bod yn gweithio hefo ni. Mae caneuon actol Pen Barras wastad yn wych a dwi'n gobeithio cael bod ynddi y flwyddyn yma!

Mae cael cae mawr yn hwyl, ond yn anffodus rhaid i ni rannu'r cae hefo Ysgol Stryd y Rhos."
Steffan

Yr wyf wedi gadael Ysgol Pen Barras ers 21 mlynedd ond mae fy atgofion yn dal i fod mor glir heddiw. Rwy'n cofio mor llawn cyffro oedd pawb ar y diwrnod cyntaf, pawb mewn gwisg ysgol newydd sbon, doedd dim rhaid i ni wisgo gwisg ysgol pan oeddwn yn yr adran Gymraeg yn Ysgol Stryd y Rhos. Prifathro newydd hefyd, sef Mr. Alun Edwards.

Dim ond 7 oedd yn fy nosbarth - Caren Roberts, Sian Newnes, Sion Morton, Dafydd Hughes a Gethin Jones, felly roeddwn yn rhannu dosbarth gyda'r rhai blwyddyn h欧n. Mrs Bronwen Wilson-Jones oedd yr athrawes. Yr oedd fel Mam i ni i gyd - dwi'n cofio bob amser roedd gennyf ddant rhydd, Mrs Jones oedd yn ei dynnu.

Yna roedd Mrs Carrington yn ein dysgu. Dwi'n cofio cael gwersi gwn茂o ganddi a hithau'n gofyn i mi n么l "Nodwydd" o'r cwpwrdd, finnau ddim syniad beth oedd nodwydd, ond hefo gormod o ofn i ofyn iddi!! Felly sefyll o flaen y cwpwrdd enfawr 'ma yn llawn top o bethau od!! A hithau, ar 么l dipyn yn dod i edrych amdanaf!

Dwi'n cofio Mrs Diana Turner yn paratoi yr ysgol i berfformio "Aladdin". Sioe broffesiynol gyntaf yr ysgol. A finnau yn un o forynion y dywysoges ac yn cael gwisgo fy ffrog Morwyn Briodas. Agorwyd Clwb Gymnasteg ar fore Dydd Sadwrn yn y neuadd gan Mr Alun Edwards, Mrs Catrin Ffoulkes a Mr Huw "Jenks"!! Roedd pawb yn cael hwyl ac yn cael cyfle i ennill bathodyn gwahanol lefelau.

Gan ei bod yn ysgol weddol fach, doedd dim llawer o gystadlu yn yr Eisteddfod, ond dwi yn cofio cystadlu yn y Dawnsio, y genethod yn gwisgo sgertiau pinc a gwyn a top gwyn gyda hances pinc a gwyn o amgylch y 'sgwyddau, a'r hogiau mewn trwsus tri chwarter a sanau at eu pen glin.

Bob blwyddyn ar Mawrth 1 roeddwn yn cael Eisteddfod yr ysgol ac roedd yr ysgol gyfan yn cystadlu yn erbyn ei gilydd trwy wneud cacennau, sgwennu stori, tynnu llun ayb. Cadair oedd y wobr, (rhodd gan Mrs Bronwen McGregor) a roeddech yn cael ei chadw am y flwyddyn. Daeth rhai o'r rhieni at ei gilydd i adeiladu "Adventure Playground" allan o bren ar fuarth yr ysgol, roedd pawb wrth eu bodd yn ei weld yn cael ei roi i fyny ac yn fwy fyth pan oeddem yn cael chwarae arno!

Rwyf yn dal i gadw mewn cysylltiad 芒 rhai o'r cyn-ddisgyblion, ac yn clywed hanes y lleill gan eu rhieni sydd yn dal i fyw yn Rhuthun.

Yr wyf mor falch fod fy merch fy hun yn awr yn ddisgybl yn yr ysgol, a minnau hefyd eleni wedi cymeryd lle ar y pwyllgor rhieni ac athrawon. Yr wyf wrth fy modd yn gallu siarad am straeon o'r blynyddoedd a fu! Mae'r ysgol wedi tyfu hyd yn hyn - fi yn cychwyn mewn dosbarth o 7 a fy merch yn cychwyn mewn dosbarth o 34 - gwych ydy hyn. Llongyfarchiadau mawr Pen Barras yn cyrraedd 25 oed.
Emma Turner-Evans (cyn ddisgybl 1982-1986)

Pum mlynedd a hugain yn 么l, agorwyd Ysgol Pen Barras am y tro cyntaf. Cofiaf fynd yno yn un o'r disgyblion cyntaf gyda Rachel Guest, Dafydd Hughes, Arwel Edwards, Stuart Hughes, Elfyn Roberts a Timothy Evans, ie, dosbarth o saith, a dim ond dwy ferch.

Mr. Alun Edwards oedd y prifathro ar y pryd ac ef oedd ein hathro dosbarth. Fe gawsom dipyn o hwyl gyda fo. Wrth edrych yn 么l, mi rydw i'n teimlo reit gyffrous am yr amser hynny - mynd i ysgol newydd, gwylio pob bricsen a llechen yn cael eu gosod, ac yn edrych ymlaen at roi fy marc ar y lle.

Fe fwynheais y flwyddyn y bum i yn Ysgol Pen Barras, a daw ag atgofion melys iawn yn 么l i mi - gwaith mathemateg ac ysgrifennu yn ystod y bore, chwarae yn ystod y prynhawn a chael mwynhau gweddill y prynhawn yn helpu Mrs. Wilson-Jones gyda'r plant ieuengaf yn ei dosbarth hi. Nid oedd ond tri athro yn yr ysgol yn yr adeg honno - Mr. Alun Edwards, y Prifathro a dwy athrawes sef Mrs. Carrington a Mrs. Wilson-Jones.

Yn y dyddiau hynny, bychan iawn oedd nifer y plant yn y dosbarth derbyn ond fe 'roeddan nhw yn cael lot fawr o hwyl. Cofiaf fynd i gael cinio a gorfod bwyta popeth a oedd wedi ei roi ar y plat. Fel mam i blentyn sydd ar ei ail flwyddyn yn Ysgol Pen Barras, mae'n ddiddorol cael gwybod ganddo beth sydd yn mynd ymlaen yn yr ysgol y dyddiau hyn. Mae'n dod ag atgofion melys iawn yn 么l imi.

Mae'r ysgol wedi cynyddu tipyn o'r amser yr oeddwn i yno,m gyda llawer mwy o blant yn bresennol. Dymunaf bob llwyddiant i Ysgol Pen Barras a gobeithiaf y bydd yn dal i fod mewn pum mlynedd ar hugain eto. Hwyl fawr.
Sian Griffith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy