大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Glenys Hughes Glenys Hughes
Portread o Glenys Hughes, yw'r diweddaraf yn y gyfres o bortreadau ym mhapur bro Y Bedol.

Y Bedol: Hedd ap Emlyn sy wedi'ch enwebu chi i gael eich portreadu y tro yma. Mae o'n byw drws nesa i chi wrth gwrs. Oes yna gysylltiad arall?
Glenys: Wel, mae ganddon ni yr un diddordebau, ac mae Hedd bob amser mor barod i helpu os bydda i'n chwilio am ryw ddeunydd llenyddol; hefyd rwyf yn adnabod Non ers dyddiau cyrsiau iaith Gwersyll Glanllyn ac mae ei chyfraniad hi yn darparu deunyddiau dysgu Cymraeg fel ail iaith yn aruthrol. B: O'r Bala dech chi'n dod yn wreiddiol?
G: Ie, o fferm Tytanygraig, Llwyneinion. Roedd yna ddigon o gyfeillgarwch a phawb yn helpu ei gilydd; cofiaf y bwydo mawr ar ddiwrnod cneifio a dyrnu a phwdin reis fy mam! Mi hoffwn i dalu teyrnged i fy rhieni achos fe wnaethon nhw ofalu ein bod yn cael pob mantais; cawsom wersi piano, gwersi canu a chofiaf y gwersi tonic sol-ffa gan Watcyn o Feirion! Doedd Dad ddim yn ddyn cyhoeddus iawn ond mwynhau drafodaeth ac ambell ddadl! Roedd yn dipyn o b锚l droediwr ac roedd o'n bencampwr ar chwarae coets. Un o deulu Rowlands Plastowerbridge, Llanbedr, oedd Mam ac roedd hi'n mwynhau sgwennu pob math o bethau. Biti na fuasai wedi cael cyfle i 'neud mwy. Roedd hi'n gwneud llawer hefo'r capel, yn flaenor, yn athrawes ysgol Sul ac yn chwarae'r organ. Roedd y capel yn bwysig iawn a hefyd yr eisteddfodau, cyfarfod bach Rhosygwaliau, 'Steddfod Y Groglith yn Llandderfel, 'Steddfod y Llungwyn yn Llanuwchllyn ac amryw o rai eraill. B: Fyddech chi'n cystadlu?
G: Canu dipyn, deuawd hefo Mair fy chwaer; dw i'n dal i fwynhau canu hefo C么r Pwllglas gynt a rwan Cymdeithas Gorawl Dinbych a'r Cylch. B: Ble aethoch chi i'r ysgol?
G: Ysgol Rhosygwaliau gynta'. Popeth yn Gymraeg yno a doedd neb yn disgwyl dim arall. Roedd meibion y tirfeddiannwr lleol yn ddisgyblion yn yr ysgol a roedden nhw mor Gymreigaidd a neb ohonom ni. Mi aethon nhw ymlaen i Eton a dwn i ddim sut oedden nhw'n teimlo am bethau wedyn ac ar y pryd roedden ni'n derbyn y sefyllfa fel un naturiol ac yn hollol anymwybodol o'r ffaith y cafodd fy hen daid ei droi allan o'i dyddyn am bleidleisio yn erbyn y tirfeddiannwr. Mae cwpwrdd tridarn o'r tyddyn hwnnw gen i adre. Un peth dw i'n gofio ydy cael te Nadolig yn y Plas a gweld sleid bren yn y ty. Doeddwn i erioed wedi gweld peth felly. B: Wedyn mynd i'r ysgol fawr yn Y Bala?
G: le Ysgol y Merched. Mi fydden ni'n mynd i Ysgol y Bechgyn i gael gwersi Lladin a mi fyddai'r bechgyn yn dod atom ni i gael gwersi Cymraeg. Doedd yna ddim llawer o le i ddychymyg yn yr addysg y pryd hynny ac oni bai am Miss Buddug James fydden ni ddim wedi cael cystadlu yn yr Urdd. B: Ond wnaethoch chi fwynhau bywyd coleg? Aberystwyth, ie?
G: Ie, dw i'n dal i fwynhau dychwelyd yno. Yn Neuadd Carpenter oeddwn i'n byw, ar y prom; hyd heddiw dw i wrth fy modd yn sefyll ac arogli'r m么r a cherdded i gicio'r bar! Dyn nhw ddim yn gwneud hynny bellach, mae'n debyg ond dw i'n dal i 'neud! Roedden ni mor lwcus, meddyliwch, Gwenallt yn darlithio i ni ar y bardd Ceiriog. B: Sut un oedd o?
G: Dyn bychan yn gwisgo gwn ddu a thei bo mawr! Doeddwn i ddim yn ei werthfawrogi ar y pryd; heb astudio ei waith a ddim yn sylweddoli ei fawredd fel bardd. Colli cyfle mae arnaf ofn. B: Beth am fywyd cymdeithasol y coleg?
Wel, o'n i'n perthyn i'r Geltaidd ac yn ymwneud 芒'r eisteddfod ryng-golegol. Un peth dw i'n edifarhau'n fawr amdano, na wnes i gymryd rhan fawr yn y gwrthdystio, oedd yn fwrlwm ar y pryd. Tybed oedd ein etifeddiaeth a'n Cymreigrwydd ni yn Y Bala yn ymddangos yn rhy saff a chysurus y pryd hynny? Wna i byth faddau i mi fy hun am beidio bod yn bresennol yn y brotest yng Nghapel Celyn. B: Ac ar 么l graddio?
G: Mi wnes i briodi'n syth ar 么l cwblhau blwyddyn yn ymarfer dysgu. Mi ges i swydd yn Ysgol Ramadeg Dinbych yn dysgu Cymraeg. Wedyn mi ddaeth y plant. Pedwar o hogie a maen nhw i gyd yn mwynhau chwaraeon, a'u tad. B: Beth mae'r bechgyn i gyd yn wneud?
G: Mae Owen yn athro yn Ysgol Penbarras. Mae Rhys wedi astudio Gwyddoniaeth Coed a bellach yn gweithio yn Yr Wyddgrug. Mae Robyn newydd gael blwyddyn o deithio ac ar hyn o bryd yn gweithio hefo Cadwyn Clwyd. Mae Rolant yn edrych ymlaen at ei ail flwyddyn yng Nghaerdydd yn astudio Cynllunio Cynnyrch (product design). B: Digon o waith eu magu nhw i gyd?
G: Mi fum i adre am naw mlynedd a mynd yn 么l i weithio pan oedd Robyn yn bedair oed. Mi ges i swydd yn Ysgol Alun Yr Wyddgrug yn dysgu Cymraeg Ail Iaith a chael y fraint o weithio i Alun Ffred Jones. Bellach, rydw i yng Ngholeg I芒l, Wrecsam. B: Dech chi'n mwynhau dysgu?
G: Wrth fy modd. Mae yna wefr i'w chael o weld myfyrwyr yn dod yn rhugl - yn croesi'r bont. Jac Price enillodd fedal y dysgwyr llynedd yn Eisteddfod yr Urdd. Eleni, mae mam ifanc, Alison White, yn y pedwar gorau yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mi fydda i'n mynd 芒 hi i lawr i'r Eisteddfod ar y bore Mercher i fod ym Mhabell y Dysgwyr cyn un ar ddeg. B: Wel, mi wnaf ymdrech i ddod i Babell y Dysgwyr i glywed y gystadleuaeth a mae'n siwr y bydd ffilm o'r cinio fin nos.
G: Cael ei darlledu yr wythnos ar 么l y Steddfod, dw i'n meddwl. Mae llawer o'r myfyrwyr ail iaith yn mynd ymlaen i'r brifysgol ac yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth gwrs mae rhai eraill sy'n mynd ddim pellach na TGAU, ond pan fydd hogiau ifanc mewn crysau coch Wrecsam yndod ar noson agored ac yn dweud "Miss, I want to speak Welsh", mi fydda i wrth fy modd! Caf wefr wrth gyflwyno gwaith y beirdd i'r dysgwyr, beirdd fel Gwenallt, Gerallt Lloyd Owen, Gwyn Thomas a T. H. Parry Williams a gweld eu hymwybyddiaeth o'u hunaniaeth yn tyfu. Gresyn nad ydynt yn gwybod dim am hanes Cymru cyn terfysgoedd Rebecca. Byddaf yn gorfod rhoi gwers hanes o'r Celtiaid hyd heddiw mewn awr! Heb y cefndir, does dim disgwyl iddyn nhw werthfawrogi'r iaith chwaith. Byddaf yn trefnu teithiau i gynefin rhai o'r beirdd ac rydyn ni wedi cyfnewid ag ysgol yn Arenys de Mar, Catalunya sawl gwaith. B: Pam Catalunya?
G: Gan fod yr Adran Gymraeg a'r Adran Sbaeneg yn y coleg yn eitha' bach, den ni wedi cyfuno i wneud tripiau cyfnewid. Dw i wedi gwironi ar Gatalunua. Maen nhw mor faich o'u hetifeddiaeth ac mae'r ysgolion i gyd yn dysgu Catalan fel iaith gynta'. Mae'r rhieni sydd am i'w plant ddysgu Sbaeneg fel iaith gynta' yn gorfod eu hanfon i ysgolion preifat. Mae gen i ffrindiau da yno erbyn hyn. Den ni newydd fod yno ar wahoddiad i ben blwydd un ohonyn nhw. Roedd y croeso'n fendigedig. Dw i'n mwynhau fy ngwaith, byth yn codi yn y bore a theimlo'n ddiflas o orfod mynd i'r coleg. Ond rydw i'n mynd i weithio hanner amser o hyn ymlaen. Edrych ymlaen at wneud pethau eraill. B: Beth hoffech chi wneud? Hoffech chi sgwennu?
G: Weithiau, mi fydda i'n teimlo felly, Dw i'n cofio un tro wedi bod yn Nhryweryn un haf sych, yn sefyll yno rhwng dau bost llidiart a meddwl am y bobl oedd wedi dod trwy'r giat a'u gwahanol brofiadau, mi ges i awydd i greu eu stori nhw. B: Profiad cynhyrfus, dw i'n siwr. Gobeithio'n wir y cewch amser i wneud hynny. Mae gennych chi dy braf dros ben a gwaith edrych ar 么l y teulu.
G: Dim ond tri ohonon ni sydd yma rwan, John, Rolant a finnau. B: A'r ci? Ie, rala y daeargi tarw. Mae'r cwn i gyd wedi bod yn gymeriadau Angharad Thomas. Den ni wedi cael Mali 1 a mali 2 a rwan dyma Rala o Rala Rwdins. B: Beth ydy'ch diddordebau eraill chi? Ydych chi'n garddio?
G: Ddim llawer ond roedd gen i ddiddordeb mewn gosod blodau un tro. Dw i'n hoffi pob math o gerddoriaeth o Lachrymosa Mozart, Hound Dog Elvis Presley i Yma o Hyd, Dafydd Iwan. Mae gen i awydd gwneud lot o bethau fel gwella fy Ffrangeg, paentio, darllen mwy, teithio a cherdded go iawn! B: Ers pryd ydych chi yn Rhuthun?
G: Byddwn yn dod i Rhuthun ymhell cyn priodi i aros ym Mronparc a Ty'n Llanfair. Wel mi fyddwn yn dathlu ein priodas ruddem y flwyddyn nesa drwy fynd i Seland Newydd i ddilyn Taith y Llewod. B: Hwyl fawr i chi a llawer o ddiolch am sgwrsio hefo'r Bedol. Pwy ydych chi am enwebu ar gyfer y tro nesa?
G: Mr. Robert John Lloyd Jones.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy