'Mae'n drawiadol, yn ysbrydoliaeth ac yn procio'r dychymyg. Roedd hi'n werth teithio 400+ milltir i'w gweld.' John.
'Hon ydy'r oriel fwyaf 'cwl' o bob oriel.' Laura, 13.
'Dylai Cymru gyfan fod yn falch ohoni.' Phil, Caer.
Dyna rai o'r degau o sylwadau sydd wedi eu gadael ar wal Canolfan Grefft Rhuthun yn dysteb i deimladau'r rhai a fu yno.
Nid yn unig y bu ymwelwyr o bob cwr o'r wlad ac ymhellach yno, ond hefyd daeth panel o feirniaid pwysig iawn i gloriannu'r Ganolfan a'i gosod ar restr hir o 10 amgueddfa neu oriel drwy Brydain ar gyfer Gwobr y Gronfa Gelf. Gwobr yw hon a ddaeth i fodolaeth yn 2002 yn rhan o'r 'Art Fund', sef elusen annibynnol, a'i nod yw arbed celf er mwyn i bawb fedru ei fwynhau. Barn y panel beirniaid oedd fod Canolfan Grefft Rhuthun yn 'berl yng nghoron y dref hanesyddol hon o 5,000 sydd yn dibynnu'n gryf ar dwristiaeth ddiwylliannol'.
Wedi ei gosod ar y rhest hir o ddeg, roedd yn rhaid disgwyl tan Fai 5 i glywed pa bedair oedd wedi cyrraedd y rhestr fer. Yn wir, pan ddaeth y cyhoeddiad gan yr Arglwydd Puttnam, sy'n wneuthurwr ffilm ac yn arwain y panel o saith beirniad, roedd pawb oedd yn rhan o ymgyrch Canolfan Rhuthun wrth eu boddau ei bod wedi ei henwi. Hefyd ar y rhestr fer oedd Oriel ac Amgueddfa Gelf Kelvingrove yn yr Alban, Oriel Tai Orleans yn Twickenham ac Amgueddfa Wedgwood.
Roedd gan y cyhoedd hawl bellach i bleidleisio am eu hoff oriel a byddai'r bleidlais fwyaf yn cyfrif fel un bleidlais i'w hychwanegu at saith bleidlais y beirniaid.
Ar Fehefin 18 cyhoeddwyd yr ennillydd. Aeth o wobr o gan mil o bunnoedd i Amgueddfa Wedgwood. Er colli, ymateb Philip Hughes oedd fod Canolfan Grefft Rhuthun wedi gwneud yn wych i gyrraedd y rownd derfynol. Roedd y beirniaid, meddai, yn cyfeirio at yr argraff a wnaeth y lle arnynt, at ragoriaeth y Ganolfan a'i rhaglen cyhoeddiadau ac egni a brwdfrydedd y tîm o weithwyr. Roedd mannau eithriadol ar y rhestr fer, meddai, oedd yn llawer mwy, gyda mwy o staff a mwy o nawdd. Mae'r holl sylwadau a wnaed wedi dangos iddo fo a'i gyd-weithwyr sut mae pobl o bell ac agos yn gwerthfawrogi'r arddangosfeydd, y digwyddiadau a'r adeilad ei hun.
Ymhlith yr arddangosfeydd ar hyn o bryd mae un i ddathlu 90fed penblwydd un o fawrion gwirioneddol celf gymhwysol gyfoes, sef y seramydd Ruth Duckworth. Y mae'r arddangosfa bwysig hon o gerfluniau serameg ysgogol a chywrain yn rhoi cyfle inni weld pam bod ei gwaith wedi bod mor ddylanwadol. Ganwyd hi yn Hamburg yn 1919 ond oherwydd twf Natsiaeth mudodd o'r Almaen i Brydain yn 1935. Y flwyddyn ganlynol cofrestrodd yn Ysgol Gelf Lerpwl i astudio cerflunio. Dyna pryd y daeth yn gyfarwydd â Gogledd Cymru am y tro cyntaf. Y mae'r arddangosfa yn dangos fel y mae ei dawn syfrdanol wedi datblygu ac yn amrywio o furluniau mawr i ddarnau porslen bychain a elwir yn gyfres "cwpan a llafn".
Yno hefyd mae gwaith yr artist Mary Lloyd Jones. Fe'i ganwyd ym Mhontarfynach yng Ngheredigion ac ysbrydolwyd llawer o'i gwaith gan y fro honno. Ei gobaith yw bod ei gwaith yn adlewyrchu ei hunaniaeth, ei pherthynas gyda'r tir, ei hymwybyddiaeth o hanes ac o'r trysorau llenyddol a llafar goludog sydd gennym. Bydd yn chwilio am ddulliau i'w galluogi i greu gwaith aml-haenog. Arweiniodd hyn iddi edrych ar ddatblygiad iaith, marciau cyntefig a Gwyddorau Ogam a Barddas.
Y mae hi wedi arddangos yn gyson ers canol y 60au yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ac fe welir ei gwaith mew nifer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Canolfan Tyrone Guthrie, Iwerddon, casgliad Cite de Adria a chartref y Llysgennad Prydeinig i'r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Mae'r drydedd arddangosfa o waith Kevin Coates sy'n creu barddoniaeth weledol. Y mae'n edrych ar bob agwedd o'n bywyd corfforol a metaphysegol gyda rhyfeddod sydd yn gymysgedd o weledigaeth syml y plentyn ac aeddfedrwydd cymhleth yr oedolyn.
Daw'r dair arddangosfa i ben ym mis Medi.