Yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth eleni fe gynhaliwyd Wythnos Cymraeg yn Gyntaf (Welsh - Give it a Go!) yn Rhuthun. Yn 么l Nan Vaughan Edwards, Swyddog Datblygu gyda Chynllun Iaith Ardal Rhuthun, fe ddewiswyd Rhuthun yn un o saith o drefi yng Nghymru i hyrwyddo'r Gymraeg. Amcan cynnal wythnos fel hon oedd cymell pobi i gefnu ar yr hen arferiad o siarad Saesneg yn gyntaf yn enwedig mewn siopau lleol ac i gychwyn pob sgwrs yn y Gymraeg.
"Dim ond dau fis a gawsom i drefnu'r cyfan," ebe Nan Edwards. "Ond yn wir, roedd angen blwyddyn! Mi aethom o amgylch siopau Rhuthun i edrych faint o bobl sy'n gweithio yn y siopau, oedd yn siarad Cymraeg ac yn gefnogol i'r Gymraeg. Yn wir, roedd yr ymateb yn galonogol iawn ac fe ddangoswyd llawer o ewyllys da tuag at y fenter.
I'r rhai oedd yn gallu siarad Cymraeg fe gawson nhw fathodyn 'laith Gwaith' ac i'r rhai oedd yn dysgu fe gawson nhw fathodyn 'Dwi'n Dysgu Cymraeg'." Yn 么l Nan, y bwriad y flwyddyn nesaf yw helpu mwy ar y bobl y tu 么l i'r cownter ac i roi mwy o hyder iddynt siarad Cymraeg. Hefyd maent am annog busnesau lleol i fod yn fwy dwyieithog eu naws yn enwedig wrth ateb ff么n.
Fe ddewiswyd tri fel 'role-models' i hyrwyddo'r fenter sef Rhys Meirion, y canwr fyd enwog ond yn byw yn lleol; Lowri Lloyd, disgybl yn Ysgol Uwchradd Brynhyfryd ac un sy'n cymysgu'n dda 芒'i chyd-ddisgyblion yn y ddwy iaith a Sian Roberts a'i merch Heledd o Lanfair Dyffryn Clwyd, - mam sydd wedi magu ei phedwar plentyn trwy gyfrwng y Gymraeg a'r pedwar bellach yn ddisgyblion yn ysgol Llanfair.
"Fe gawsom ni un cyd-ddigwyddiad ffodus iawn," ebe Nan, "A chyd ddigwyddiad oedd o hefyd, pan gynhaliwyd Cyngerdd Lansio CD newydd Rhys Meirion 'Pedair Oed' yng Nghapel Bethania ar y nos Sul ac fe roddodd gychwyn bendigedig i'r wythnos. Bu i Rhys hefyd daro i mewn i nifer o'r gweithgareddau yn ystod yr wythnos."
Roedd yna amrywiaeth ddiddorol o weithgareddau drwy'r wythnos a chyda gobaith roedd y gweithgareddau yn apelio at drwch eang y boblogaeth.
Dydd Llun, Mawrth 1 (Dydd G诺yl Dewi)
Yn y bore, cafwyd Paned a Chacen Gri yn y Llyfrgell wedi ei baratoi gan Gangen Merched y Wawr, Rhuthun ac yna bu Llinos Davies a staff y Llyfrgell yn cyflwyno rhai o'r llyfrau diweddaraf gael yn y Llyfrgell. Cafwyd adloniant hefyd gan blant Ysgol Penbarras. Yn y pnawn, cynhaliwyd Eisteddfodau G诺yl Dewi yn ysgolion Borthyn a Phen Barras ac yn y nos cynhaliwyd Swper G诺yl Dewi yn Nhafarn y Cross Keys, Llanfwrog.
Dydd Mawrth, Mawrth 2
Cynhaliwyd Sesiwn Siarad y Dysgwyr yn y Felin Goffi yn y bore a chafwyd ymateb da. Yn y pnawn roedd Eisteddfod G诺yl Dewi Ysgol Stryd y Rhos a nos Fawrth Cynhaliwyd Noson Gwyl Dewi y Dysgwyr yng Ngwesty'r Angor. Daeth tua 35 o ddysgwyr yno o ardal oedd yn ymestyn o Brestatyn i Weston Rhyn. Ar 么l y swper, cafwyd adloniant gyda Elin Williams yn chwarae nifer o alawon ar y delyn a dau aelod o Ffermwyr Ifanc Nantglyn yn difyrru.
Y siaradwr gwadd oedd Mair Spencer sydd wedi bod yn diwtor ail-iaith ers ugain mlynedd a chafwyd anerchiad arbennig iawn ganddi. Y teimlad ar y diwedd oedd y dylid cynnal noson fel hon bob blwyddyn.
Dydd Mercher. Mawrth 3
Ymwelodd Bws teithiol y 大象传媒 芒 Rhuthun gan barcio ar Sgw芒r Sant Pedr. Daeth disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o ysgolion Borthyn a Stryd y Rhos i dreulio cyfnod yn y bws. Cawsant gyfle i ddefnyddio safle gwe arbennig y 大象传媒 ar liniaduron oedd y tu mewn i'r bws yn ogystal 芒 defnyddio camera i ffilmio gweithgareddau'r bore ar y sgw芒r. Roedd hi'n bleser gwrando ar y disgyblion yn sgwrsio yn y Gymraeg 芒'r naill a'r llall.
Bydd disgyblion y ddwy ysgol yn ymuno 芒 disgyblion o ysgolion Llanbedr, Bro Famau, Dyffryn I芒l a Rhewl mewn prosiect addysgu'r Gymraeg trwy ddulliau dwys ddiwedd tymor yr haf eleni.
Nos Fercher y cynhaliwyd Ffilm deithiol S4C Dal: Yma/Nawr gyda Rhys Ifans a Ioan Gruffudd yn actio ynddi, yn Theatr John Ambrose. Roedd y ffilm yn cyfleu'r traddodiad barddol yng Nghymru ar hyd yr oesoedd.
Dydd Iau, Mawrth (Diwrnod y Llyfr)
Yn y Llyfrgell fore Iau, cynhaliwyd Awr Stori a Ch芒n gyda Sali Mali ar gyfer y plant lleiaf. Daeth tua hanner cant o blant i'r sesiwn. Aeth Sali Mali 芒'r criw i Ysgol Penbarras yn y pnawn ac yn 么l i'r Llyfrgell ar ddiwedd y pnawn ar gyfer y plant hyn. Cafwyd ymateb gwych gan y plant.
Nos lau, cafwyd noson ddiddorol a gwahanol iawn yn y Llyfrgell o dan y teitl 'Blas Mwy ... Gwin Siocled a Llyfr.' Daeth tua deugain ynghyd, llawer ohonynt yn famau o dan 45 oed, i flasu ambell i lyfr gyda gwin a siocled o'r un naws. Roedd Gwawr a Tomos Williams yn bresennol hefyd i ddarllen y llyfr 'Ar D芒n' gan Sioned Lleinau. Diolch i Bethan Hughes a staff y Llyfrgell am baratoi noson mor fendigedig.
Dydd Gwener, Mawrth 5
Cynhaliwyd Bore Goffi Gwyl Dewi ym Marchnad Sefydliad y Merched a'r un pryd aethpwyd ati i annog pobl y stondinau i labelu eu cynnyrch yn ddwyieithog. Daeth plant Ysgol Stryd y Rhos yno i'n difyrru a chanwyd nifer o ganeuon Cymraeg. Yn Ysgol Bryn Hyfryd yr un bore roedd Meryl Pierce, Uwch-Swyddog TWF (Taking Welsh to Families) yn rhoi sgwrs ar Ymwybyddiaeth Iaith a Neges TWF i ddisgyblion y chweched dosbarth. Yn dilyn cafwyd sesiwn drafod a chafwyd trafodaeth fuddiol iawn. Yna'n dilyn chwaraewyd g锚m b锚l-rwyd gyfeillgar rhwng staff a disgyblion yr ysgol a phawb yn gwisgo Crysau T gyda'r geiriau 'Y Fantais Gymraeg' ar y tu blaen a 'Welsh- Give it a Go' ar y cefn.
Nos Wener, roedd Meinir Gwilym a'r band yn perfformio yng Nghlwb Nos y Venue. Daeth tua tri chant a hanner o bobl yno i wrando.
Dydd Sadwrn, Mawrth 6
Bore Sadwrn cafwyd taith ar gyfer Cymry Cymraeg a Dysgwyr o amgylch Carchar Ruthun ac Adnoddau'r Archifdy gyda Kevin Matthias, Archifydd y Sir. Daeth nifer dda ynghyd. Yn y pnawn, cafwyd Taith Hanesyddol o amgylch Rhuthun gyda Vernon yn arwain. Ymunodd tua pump ar hugain yn y daith eto'n cynnwys Cymraeg a Dysgwyr.
Hefyd yn ystod y dydd roedd Rhys Meirion yn Siop Elfair yn arwyddo ei CD newydd a chafodd pawb a alwodd lasied o win am ddim.
Nos Sadwrn, yn Theatr John Ambrose, cynhaliwyd gyda Ch么r y theatr, fel y gellid disgwyl, yn llawn. Fel y gwelir, cafwyd wythnos lwyddiannus iawn a gobeithiwn iddi fod yn hwb mawr i'r iaith Gymraeg yn y dref a'r ardal a bydd llawer mwy o ddefnyddio arni yn y dyfodol.
E.A.J.