Ar gyfartaledd byddaf yn mynychu tua 25 o gyfarfodydd yn flynyddol. Ar y cyfan, mae'r tywydd dros y blynyddoedd wedi bod yn ffafriol, gyda 'chydig iawn o deithiau wedi eu difetha'n llwyr gan dywydd diflas.
Byddwn weithiau yn mentro dros y ffin i ymweld â rhyw safle neu ardal ddiddorol, ac felly roedd y bwriad ar ddydd Sadwrn hiraf y flwyddyn eleni. Wedi clywed sôn am le o'r enw Risley Moss ger Warrington - gwlyptir yn bennaf gyda chyfoeth o blanhigion, adar a phrydfetach. Yn anffodus roedd yr arolygon tywydd yn sâl iawn am y diwrnod cyfan. Felly gwnaed penderfyniad i ail-ymweld â lle y buom y llynedd gan fod y man hwnnw yn cynnig gwell cysgod rhag yr elfennau. Gwarchodfa o'r enw Mere Sands Wood, ychydig mwy i'r gogledd oedd y lle hwn, cyfres o lynoedd wedi eu hamgylchynu gan goed a nifer o guddfannau oddi amgylch. Yn y gaeaf mae'r llynoedd yma yn gartref dros dro i bob math o hwyaid a rhydyddiau ond digon tawel ydy'r lle yng nghanol yr haf i'r math hynny o adar ac felly bach oedd y disgwyliadau wrth grwydro o guddfan i guddfan.
Yn sydyn, fodd bynnag, daeth fflach o liw o rywle a glanio tua 20 llath oddi wrthym, ar ddarn o bren a oedd yn amlwg wedi ei osod yno yn arbennig ar gyfer yr ymwelydd disglair - glas y dorlan!
Bu yno am rai munudau gan blymio ambell waith i'r dŵr i nol ambell i bysgodyn anffortunus. Dyma yn bendant oedd uchafbwynt y daith, er ein bod wedi gweld ambell i beth arall diddorol yn ystod y dydd. Y teimlad wrth ddychwelyd i Gymru ar ddiwedd a prynhawn oedd i ni gael ein gwobrwyo am fentro allan ar ddiwrnod mor ddiflas. Cawn hyd i Risley Moss rhywbryd eto.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |